Ein Hanes

Dechrau'r Urdd

Sefydlwyd Urdd Gobaith Cymru gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. Ei fwriad oedd creu mudiad i amddiffyn y Gymraeg mewn byd lle roedd yr iaith Saesneg yn dominyddu pob agwedd o fywyd plant Cymru tu allan i’r cartref a’r capel. Mewn rhifyn o ‘Cymru’r Plant’ ym 1922 meddai Syr Ifan, ‘Yn awr mewn llawer pentref, a bron ym mhob tref yng Nghymru, mae’r plant yn chwarae yn Saesneg, yn darllen llyfrau Saesneg, ac yn anghofio mai Cymry ydynt.’ Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif er bod dros filiwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, edrychai’r dyfodol yn reit ddu i’r iaith.

Dau o’r unigolion mwyaf blaenllaw a aeth ati i wynebu’r argyfwng yn y cyfnod hwn oedd O. M. Edwards, a’i fab Syr Ifan ab Owen Edwards. Ysgrifennodd O. M. Edwards, prif arolygydd cyntaf addysg Cymru, yn helaeth i’r cylchgrawn misol ‘Cymru’r Plant’ a sefydlwyd ganddo ym 1892. Cyhoeddodd lyfrau di-ri yn y Gymraeg ar wleidyddiaeth ac am Gymru. Anogai ymwybyddiaeth o Gymreictod yn y cylchgronau ‘Cymru’ a ‘Cymru’r Plant’ gan drwytho plant yn niwylliant a thraddodiadau eu gwlad. Ymgeisiodd ddwywaith i sefydlu mudiad ar gyfer ieuenctid Cymru, sef ‘Urdd y Delyn’ ym 1896, a ‘Byddin Cymru’ ym 1911, ond ni fu un o’r ymdrechion hyn yn llwyddiant. Er i O. M. farw ym 1920 bu ei fywyd a’i syniadau yn ysbrydoliaeth i’w fab i ddatblygu mudiad newydd.

Ar farwolaeth O.M.Edwards, Syr Ifan ddaeth yn olygydd cylchgrawn ‘Cymru’r Plant’ ac yn y cylchgrawn hwn ym 1922 yr apeliodd ar blant Cymru i ymuno â mudiad newydd, sef ‘Urdd Gobaith Cymru Fach’. Dyma ddechrau newydd yn hanes iaith a diwylliant Cymru. Cafodd ymateb cadarnhaol o’r cychwyn cyntaf. Derbyniwyd llwyth o lythyrau a syniadau, ac roedd brwdfrydedd yr aelodau yn llethu ‘Cymru’r Plant’ a gwasg Hughes a’i fab yn Wrecsam. Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf roedd 720 o enwau aelodau wedi ymddangos yn y cylchgrawn a channoedd mwy yn aros eu tro. Sefydlwyd Adran gyntaf yr Urdd yn Treuddyn, Sir Fflint ym 1922.

Yn y cyfnod cynnar Syr Ifan a’i wraig a oedd yn ysgwyddo’r holl gyfrifoldeb am drefniadaeth a gweinyddiad yr Urdd, ac roeddent yn gweithio o’u cartref yn Llanuwchllyn. Erbyn diwedd 1923 tyfodd yr aelodaeth, o ganlyniad i’w brwdfrydedd hwy, i 3,000, a thyfu ymhellach i dros 5,000 ym 1927 gyda nifer yr adrannau yn tyfu i 80. Ym 1924 sefydlwyd yr adran gyntaf yn y de yn Abercynon. Dangosodd hyn sut oedd gwaith yr Urdd yn effeithio ar ardaloedd di-Gymraeg yn ogystal ag ardaloedd lle roedd llawer o Gymry Cymraeg yn byw.

Erbyn diwedd y 1920au felly, yr oedd yr Urdd wedi tyfu o fod yn fudiad cylchgrawn i fod yn fudiad gweithredol a deinamig. Tyfodd i fod yn fudiad hyderus, a chafwyd gwared o’r gair ‘bach’ yn enw’r mudiad. Yr enw ar ei newydd wedd oedd ‘Urdd Gobaith Cymru’. Erbyn 1930 roedd 20 cylch wedi eu creu a thua dwsin arall ar y gweill. Datblygodd y cylchoedd hynny i gael baneri unigryw a threfniant effeithiol. 

1920au i'r 1950au

Syniad nesaf Syr Ifan ab Owen Edwards oedd dod â phlant ledled Cymru at ei gilydd mewn gwersyll Cymraeg a Chymreig. Yr unig beth oedd i ddenu’r gwersyllwyr cyntaf oedd brwdfrydedd dros Gymru, antur a’r cyfle i gyfarfod â Chymry eraill o dan arweiniad y sylfaenydd. Ym Medi 1927 hysbysodd Syr Ifan ddarllenwyr ‘Cymru’r Plant’ fod gwersyll deng niwrnod i gael ei gynnal yn Llanuwchllyn am ddeng swllt yr un.

Penderfynwyd cynnal dau wersyll i tua cant o fechgyn ym mis Awst 1928. Cyntefig iawn oedd y dulliau coginio ac yr oedd y cyfleusterau’n brin. Yr oedd ganddynt ddeunaw o bebyll a marcî fawr. Golchai’r gwersyllwyr yn yr afon sydd yn wahanol dros ben i’r moethusrwydd sydd yn y gwersylloedd erbyn heddiw. Bu’r gwersylloedd cyntaf hyn yn llwyddiant mawr a chynhaliwyd gwersylloedd tebyg i ferched. Yn ystod y blynyddoedd nesaf cynhaliwyd y gwersylloedd yn Llangollen, a bu gwelliant yn y cyfleusterau coginio a lletya a oedd ar gael.

Erbyn 1932 yr oedd Syr Ifan yn benderfynol o sefydlu gwersyll parhaol i’r Urdd, a daeth Gwersyll yr Urdd Llangrannog i fodolaeth yn y flwyddyn honno. Sefydlwyd y gwersyll o gwmpas caban pren y ffreutur a enwyd ar ôl cartref J.M.Howell, ‘Plas Penhelig’, fel arwydd o ddiolch iddo am ei nawdd hael. Cafwyd pedair wythnos o wersyll yn ystod yr haf poeth hwnnw ym 1932, gyda lle i 150 o wersyllwyr, a gwellodd y cyfleusterau bwyta, ymolchi ac hamdden yn flynyddol.
 
Sefydlwyd ail wersyll ym 1934 ym Mhorth Dinllaen i gydredeg â’r Gwersyll yn Llangrannog. Anfonwyd y bechgyn yno am fis tra arhosai’r merched yn Llangrannog, gyda’r bwriad o gyfnewid bob yn ail flwyddyn. Anogwyd dysgwyr i ymuno â Chymry Cymraeg yno, a daeth nifer i loywi tipyn ar eu Cymraeg. Aeth y ddau wersyll o nerth i nerth gyda grantiau’r Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol a’r ‘Jubilee Trust’ yn galluogi mwy o adnoddau a mwy o gabanau. Yr haf hwnnw darparwyd llety i 701 o fechgyn ym Mhorth Dinllaen a 765 o ferched yn Llangrannog. Ym 1938 cynhaliwyd gwersyll cymysg i oedolion er mwyn iddynt gael ail fyw hwyl ac atgofion eu hieuenctid. Bu’r gwersyll hwnnw yn Llangrannog a gafaelodd y syniad o wersyll oedolion a gwersyll cymysg. Gyda datblygiadau adeiladu yn Llangrannog, y gegin, y gampfa a’r capel, penderfynwyd canolbwyntio ar y Gwersyll hwnnw a daeth y Gwersyll ym Mhorth Dinllaen i ben.
 
Llwyddwyd i gynnal gwersylloedd yng nghysgod yr Ail Ryfel Byd er na ellid codi pebyll, a bu dogni a chyfyngiadau eraill yn rhwystr. Cyfyngwyd ar niferoedd y gwersyll adeg y rhyfel ac yr oedd yr awdurdodau yn cadw llygad barcud ar weithgareddau’r Urdd. Ond, erbyn 1944 llwyddwyd i dderbyn dros 1000 o wersyllwyr o bob oed.

Yn niwedd y 1940au daeth gwersyll ar gyfer ieuenctid hyn Cymru. Roedd apêl y gwersyll hwn yn wahanol i’r lleill am ei fod yng nghanol mynyddoedd Eryri a Llyn Tegid wrth ei ymyl. Yr oedd hyn yn rhoi cyfle i’r ieuenctid i wneud gweithgareddau o fath gwahanol. Gwelwyd fod posibiliadau o ran dringo, ymarfer corff a chwaraeon dwr. Ym 1950 cynhaliwyd y gwersyll cyntaf yng Nglan-llyn gyda chwch modur ‘Y Brenin Arthur’ yn cludo gwersyllwyr ar draws y llyn o’r trên. Ym 1955 codwyd caban newydd i fod yn neuadd ymgynnull lle gellid cynnal Eisteddfod a Noson Lawen.

Nid y gwersylloedd oedd yr unig ddarpariaeth gan yr Urdd i ffynnu yn ystod y blynyddoedd hyn tan yr Ail Ryfel Byd. Daeth yr Urdd yn fudiad cenedlaethol pwysig yn y cyfnod hwn a thyfodd yr Aelwydydd ar raddfa gyflym iawn. Derbyniodd yr Urdd grantiau hael a sicrhaodd fod modd cynnal staff yn y rhanbarthau ac yn genedlaethol. Llwyddwyd i gael grantiau oddi wrth yr awdurdodau addysg i addasu adeiladau ar gyfer Aelwydydd ac i brynu pob math o adnoddau. Erbyn Mai 1941 yr oedd 83 o Aelwydydd yn cael eu cynnal trwy Gymru gyfan. Rhwng yr Adrannau a’r Aelwydydd, a’r ‘Young Wales Club’ i ddysgwyr, roedd 817 o ganghennau i’r mudiad, gyda rhwydwaith o bwyllgorau lleol ynghyd â threfniant taclus o bwyllgorau cylch a phwyllgorau sir. Bu cynnydd yn incwm y mudiad yn fodd i weithgaredd cyson ddigwydd ym mhob rhan o Gymru o Fôn i Forgannwg, trwy gydol y flwyddyn.

Mewn cyfarfod cylch yng Nghorwen ym 1928 yr awgrymwyd y posibilrwydd o gynnal Eisteddfod Genedlaethol o dan nawdd yr Urdd. Paratowyd felly ar gyfer Eisteddfod deuddydd yng Nghorwen ym 1929 ar ddiwedd mis Mai. Cynhaliwyd gorymdaith a seremoni hanesyddol ym Mhafiliwn Corwen gyda baneri, a thair brenhines yr Eisteddfod ar orseddau unigryw a bu canmol mawr ar safon uchel y cystadlu. Yn yr ail Eisteddfod yng Nghaernarfon ym 1930 daeth 3,000 o gystadleuwyr a daeth y dref i stop am ddeuddydd. Eisteddfod Caerfyrddin 1935 fu un o’r rhai mwyaf arbennig yn y cyfnod cynnar hwn, gyda’r wasg yn llawn datganiadau megis ‘Byddin ifanc yn meddiannu’r fwrdeistref’. Tyrrodd miloedd i’r pafiliwn a ddaliai 12,000 a chreu argraff yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Bu’r Ail Ryfel Byd yn ergyd drom i’r Eisteddfod, ond er bod bygythiadau o bob cyfeiriad, cynhaliwyd Eisteddfod ym 1940 yn y Rhyl. Er mai am ddiwrnod yn unig y cynhaliwyd yr Eisteddfod honno mewn neuadd, daeth adrannau o bob rhan o Gymru i gystadlu.  Prin iawn oedd y cyfleoedd i blant ac i ieuenctid i deithio yn y cyfnod hwn, ac roedd yr Eisteddfod yn fodd o gael pobl i adnabod eu gwlad a chael cyfarfod pobl o gefndir hollol wahanol iddynt eu hunain. Erbyn canol y 50au newidiodd natur yr wyl i ganolbwyntio mwy ar y cystadlu, y diwylliant a’r ansawdd yn hytrach na’r gorymdeithio a’r dathlu. Datblygodd pethau newydd bob blwyddyn gydag arddangosfa gelf a chrefft yn Abertridwr ym 1955 a chyngerdd o gerddoriaeth glasurol yn Eisteddfod yr Wyddgrug ym 1958.

Yn ogystal â’r Eisteddfod penderfynodd yr Urdd fentro ac arloesi mewn sawl maes newydd i atgyfnerthu a hyrwyddo’r iaith Gymraeg. Yn y cyfnod hwn y cafodd Syr Ifan y syniad am gynnal sinema Gymraeg i hyrwyddo’r mudiad a hyrwyddo Cymreictod i gynulleidfa ehangach. Aeth ffilm sain ‘Y Chwarelwr’, gostiodd £2,000, ar daith o amgylch Cymru. Defnyddiwyd y sinema gan Syr Ifan hefyd i hyrwyddo gweithgareddau’r mudiad ei hun.

Bu’r ymgyrch lyfrau rhwng 1937 a 1965 hefyd yn gyfraniad allweddol i ddiwylliant Cymru. Yr oedd hwn yn gynllun pendant i gefnogi llenyddiaeth Gymraeg gyfoes drwy i adrannau ac aelodau’r Urdd ddosbarthu a gwerthu llyfrau Cymraeg i’r cyhoedd. Aeth cannoedd o aelodau’r mudiad ati i werthu llyfrau mewn siopau, Eisteddfodau ac o ddrws i ddrws. Aeth yr ymgyrch o nerth i nerth a chanlyniad hyn oll oedd sefydlu’r Cyngor Llyfrau Cymraeg ym 1962 a oedd i gyllido a noddi’r fasnach lyfrau o hynny ymlaen.

Syr Ifan a fu’n gyfrifol am sefydlu’r Ysgol Gymraeg gyntaf yn Aberystwyth ym 1939 hefyd. Ar ôl ymgynghori â’r awdurdod addysg sefydlwyd ysgol i 7 o ddisgyblion o dan arweiniad abl Norah Isaac. Tyfodd yr ysgol o fod yn arbrawf bach ansefydlog i fod yn sefydliad atyniadol ac effeithiol gyda rhieni yn barod iawn i dalu am addysg dda trwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn 1945 tyfodd Ysgol Lluest i gael 4 athrawes ac 81 disgybl gan greu ymwybyddiaeth o’r angen am y math hwn o addysg o dan awdurdod addysg. Cafodd hyn effaith fawr ar Awdurdodau Addysg a’u perswadio i weld bod angen Ysgolion Cymraeg ledled Cymru. Er i’r ysgol honno ddod i ben oherwydd problemau ariannol ym 1951, agorwyd ysgol Gymraeg arall ar gyfer 160 o ddisgyblion yn Aberystwyth ym 1952 o dan yr un prifathro ag Ysgol Lluest, sef Hywel O. Roberts.

Yr oedd Sul yr Urdd yn fenter arall a oedd yn rhan o weledigaeth Syr Ifan yn y cyfnod hwn. Cynhaliwyd ‘Sul yr Urdd’ gyntaf ym 1931. Erbyn 1934 yr oedd wedi datblygu i fod yn wasanaeth mawr blynyddol.

Parhaodd Syr Ifan â’r gwaith o olygu cylchgrawn ‘Cymru’r Plant’ am 30 mlynedd, sef y gwaith y dechreuodd ei dad O. M. Edwards ym 1892. Cynyddu fu hanes cylchrediad y cylchgrawn ar yr un raddfa â chynnydd aelodaeth yr Urdd ei hun yn y blynyddoedd cynnar. Erbyn 1954 yr oedd y cylchrediad wedi cyrraedd 22,500 y mis ac yn cael ei ddosbarthu’n eang i’r ysgolion trwy’r Awdurdodau Addysg. Sefydlwyd y cylchgrawn ‘Cymraeg’ ar gyfer dysgwyr gan gyrraedd cylchrediad o 26,000 o fewn blwyddyn. Ym 1957 gwelodd Ifor Owen, y golygydd, yr angen am ddau gylchgrawn i’r Cymry Cymraeg sef ‘Cymru’ i’r plant hyn a ‘Cymru’r Plant’ i’r plant iau. Aeth y cylchgronau o nerth i nerth gan ddatblygu’n gyflym yn ystod y 60au.

Yr oedd lle blaenllaw i weithgaredd corfforol yng ngweithgareddau’r Urdd hefyd a chredai’r sylfaenydd ei fod yn bwysig yn natblygiad pobl ifanc. Cynhaliwyd y mabolgampau cyntaf yn Llanelli ym 1932. Llwyddwyd i ddenu 4,000 o blant ynghyd i’r wyl liwgar hon. Bu’r ymateb yn wych yn y de a gwelai trefnwyr yr Urdd fod cael Cymry di-Gymraeg a dysgwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol yn eu hannog i ddefnyddio’r Gymraeg a chymysgu â Chymry Cymraeg. Roedd gwisg unffurf, baneri a gorymdeithio gyda band yn nodwedd o’r cyfnod hwn, ac adeg y mabolgampau gorymdeithiodd aelodau’r Urdd trwy dref Llanelli yn eu miloedd. Cynhaliwyd mabolgampau yn Aberystwyth, Penybont, Pontypridd, Bangor, Porthmadog ac Aberpennar. Ni fedrwyd cynnal mabolgampau ym 1940 o ganlyniad i ddechrau’r Ail Ryfel Byd, a bu’n anodd codi’r mabolgampau’n ôl ar eu traed. Llwyddodd ambell sir i gynnal mabolgampau lleol yn y 40au, ac yn raddol dychwelodd yr awydd i gynnal gwyl genedlaethol. Gyda datblygiad cystadlaethau chwaraeon newydd a chymdeithasau Athletaidd newydd yn y 50au, sylweddolodd yr Urdd nad oedd gwir angen y mabolgampau ar ieuenctid y wlad a daethant i ben ym 1954. Dechreuodd y mudiad ganolbwyntio ar agweddau eraill o chwaraeon.

Wedi ei brofiadau yn y Rhyfel Mawr a’i brofiad o ddinistr ac oferedd rhyfel, credai Syr Ifan ab Owen Edwards bod angen codi pontydd rhwng diwylliannau a chenhedloedd gwahanol. Dechreuwyd cyhoeddi Neges Ewyllys Da gan Gwilym Davies, Cymro a oedd yn gynrychiolydd ar Gynghrair y Cenhedloedd. Credai Syr Ifan fod angen i’r Urdd ymuno gyda’r fenter o gyhoeddi’r neges er mwyn dileu’r anwybodaeth a’r rhagfarnau a oedd yn bodoli rhwng cenhedloedd y byd. Ym 1925 felly, cyhoeddwyd y neges ar y cyd rhwng yr Urdd a chynghrair y Cenhedloedd. Ym 1930 penderfynwyd gwneud mis Mai yn fis Ewyllys Da a rhoddwyd hwb i’r neges ac i’r syniad yn ‘Cymru’r Plant’. Erbyn 1934 roedd y BBC yn cyhoeddi’r neges a daeth thema wahanol i nodweddu’r neges yn flynyddol. Erbyn 1939 yr oedd Adrannau ledled Cymru yn cyhoeddi’r neges, ac er y bu’n rhaid rhoi’r gorau i gyhoeddi’r neges dros y rhyfel, parhau wnaeth yr ymgyrch dros frawdgarwch gyda chyfres o erthyglau ‘Cymru a’r Byd’ yn cael eu cyhoeddi.

Yr oedd hi’n bwysig i Syr Ifan fod plant Cymru yn cael cyfarfod ag ieuenctid eraill o wledydd ar draws y byd. Ym 1930 aeth ati i drefnu bod parti o fechgyn o Gymru yn mynd i Genefa, cartref Cynghrair y Cenhedloedd. Gyda llwyddiant y daith honno, penderfynodd y sylfaenydd arwain criw o ferched am daith gyffelyb y flwyddyn ganlynol. Aeth yr Urdd ymlaen i drefnu mordeithiau di-ri. Ym 1933 hwyliodd criw o Gymru i Sgandinafia a Fjordiau Norwy, a thalodd cannoedd o aelodau hyn yr Urdd £15 i fynd ar y fordaith gwbl Gymreig ac unigryw hon i Ogledd Ewrop. Penderfynodd Syr Ifan bod angen trefnu mordeithiau mor aml â phosib, ac aeth ati i drefnu teithiau i Lydaw, Sbaen, Portiwgal, Môr y Canoldir a Gogledd Affrica. Daeth y mordeithiau hyn i ben gyda dechrau’r Ail Ryfel Byd ym 1939. O hyn ymlaen canolbwyntiwyd ar deithiau rhatach i niferoedd llai. Ceisiwyd adfer creithiau rhyfel drwy barhau i gyfnewid teithiau ag ieuenctid ledled Ewrop. Wedi’r rhyfel dechreuwyd ailafael yn y cyfle i estyn dwylo dros y môr a chynnal cysylltiadau rhyngwladol. Ym 1948 penderfynwyd cynnal Gwersyll Cydwladol cyntaf yr Urdd yn Aberystwyth. Roedd y gwersyll yn cael ei gynnal yn flynyddol tan 1960 ac yn denu pobl ifanc o bob rhan o’r byd i gymdeithasu, i ddysgu ac i fwynhau gwyliau ar arfordir Cymru. Yr Urdd oedd un o’r mudiadau cyntaf i groesawu Almaenwyr ifanc wedi’r Ail Ryfel Byd.

1960au i'r 1980au

Daeth gweithgareddau’r Urdd yn fwyfwy llwyddiannus a ffynnodd y mudiad yn ystod y cyfnod hwn. Parhau i ddatblygu ac arbrofi wnaeth yr Eisteddfod ar ddechrau’r 60au. Tyrrodd dros 25,000 i Eisteddfod Dolgellau ym 1960, ac yno sefydlwyd Adran Wyddoniaeth am y tro cyntaf gan sicrhau fod pob maes yn dod o dan fantell y mudiad. Dechreuwyd roi pwyslais ar ddenu Cymry di-Gymraeg i mewn i’r Eisteddfod gan roi hysbysfwrdd dwyieithog yng nghefn y llwyfan yn Aberdâr ym 1961, a chyhoeddwyd argraffiad talfyredig o raglen y dydd yn Saesneg. Ym mlwyddyn dathlu hanner can mlwyddiant yr Urdd perfformiwyd pasiant ‘Y Weledigaeth Fawr’ a chafwyd arddangosfa mewn pabell ar faes yr Eisteddfod Yn ystod y 70au gwelwyd yr Eisteddfod yn datblygu o ran nifer y cystadleuwyr ac o ran maint, a cheisiwyd canolbwyntio ar ddenu nawdd ac ymwelwyr gan fod costau a safon yr Eisteddfod yn codi’n gyson. Yn Eisteddfod y Rhyl ehangwyd yr wyl i bedwar diwrnod yn lle tri. Yn y 70au datblygwyd y maes ac apêl yr Eisteddfod ac yn 1975 daeth 65,000 o bobl, yn gystadleuwyr, ymwelwyr a theuluoedd.

Ganwyd Mistar Urdd ym Medi 1976 ac fe dyfodd yn gymeriad bywiog a phoblogaidd. Buddsoddodd yr Urdd mewn peiriant argraffu crysau T a daeth seler swyddfa’r Urdd yn Aberystwyth yn ffatri argraffu Mistar Urdd ar gyfer bob math o nwyddau. Ymhlith y cynnyrch roedd sticeri, bathodynnau, posteri, mygiau, gwisgoedd o bob math, llyfr llofnodion ac ati. Fe dyfodd Mistar Urdd yn ddiwydiant ac roedd cymaint o alw am nwyddau Mistar Urdd fel bu’n rhaid i’r Urdd sefydlu cwmni masnachol ‘Copa Cymru’ a chymryd ffatri barod ar stâd ddiwydiannol. Agorwyd siop Mistar Urdd yn Aberystwyth a threfnwyd gwasanaeth prynu drwy’r post. Yn 1979 trefnwyd taith hyrwyddo trwy Gymru gyfan gyda cherbyd arbennig a Mici Plwm yn arwain yr ymgyrch.

Yr oedd maes yr Eisteddfod erbyn yr 80au yn atyniad ar ei ben ei hun gyda llawer o stondinau a phebyll. Datblygwyd y pafiliwn i fod yn neuadd gyngerdd safonol, a gwelwyd gwelliant yn y ddarpariaeth i’r cystadleuwyr. Erbyn 1983 yr oedd yr Eisteddfod yn bum niwrnod o hyd, ac yn Eisteddfod yr Wyddgrug 1984 yr oedd pob math o welliannau wedi eu gwneud i adloniant cerddorol a theatrig a chafwyd hyfforddiant chwaraeon a chystadlaethau o bob math. Daeth y ffair i ddiddanu plant ar y maes, ac yr oedd yr holl elfennau yn ehangu apêl yr wyl, ac yn denu cefnogaeth pobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol a chymdeithasol. Yn Eisteddfod Cwm Gwendraeth ym 1989 ehangwyd yr Eisteddfod i chwe niwrnod gydag amrywiaeth eang o gyngherddau, cystadlu a chwaraeon ar y maes.

Ffynnu wnaeth y gwersylloedd yn y cyfnod hwn hefyd. Wedi llwyddiant gwersylloedd yn Llanuwchllyn, Porth Dinllaen a’r gwersyll parhaol yn Llangrannog, sefydlwyd Gwersyll Glan-llyn  ym 1950. Yn niwedd y 50au yr oedd posibiliadau i gynyddu maint y gwersyll wrth ddatblygu ty preswyl arall a’i alw yn Glan-llyn Isaf. Parhaodd twf ym maint ac adnoddau Glan-llyn yn ystod y 60au gyda champfa a dau gaban yn cael eu codi gyda grant helaeth o £3,800 oddi wrth yr Weinyddiaeth Addysg. Daeth mwy o sicrwydd am ddyfodol y gwersyll yn ogystal wrth i’r Urdd gael prydles tymor hir hyd 1980 ar y safle. Yr oedd hyn yn rhoi mwy o gyfle i ddatblygu’r safle ar gyfer y tymor hir. Yn y 60au cynnar gwariwyd yn helaeth ar adnoddau a gweithgareddau, a bellach gellid cael hyfforddiant mewn dringo a chanwio. Yn y 70au llwyddwyd i gael cwt hwylio a glanfa newydd, ac erbyn 1980 cafwyd pwll nofio yn y gwersyll.  Yn y flwyddyn honno hefyd agorodd adeilad newydd a oedd yn cynnwys pwll nofio, campfa, ac ystafelloedd preswyl i 60 o bobl. Cynhaliwyd 69 o gyrsiau yno yn ystod y flwyddyn a daeth dros 6,000 o ieuenctid i fwynhau’r ddarpariaeth eang a oedd ar eu cyfer. Yn yr 80au daeth caban bwyta newydd a neuadd chwaraeon aml bwrpas i Lan-llyn, ac er mwyn denu mwy o ymwelwyr adeiladwyd Canolfan Bowlio Deg ym 1992. Gydag atyniadau modern, cyrsiau daearyddol a hyfforddiant mewn gweithgareddau megis dringo a hwylfyrddio, daeth Glan-llyn   i fod yn wersyll blaenllaw i ieuenctid Cymru erbyn canol y 90au.

Yn yr un cyfnod gwelwyd datblygiadau mawr yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Yr oedd gofid ymysg swyddogion fod Glan-llyn yn cael tipyn mwy o sylw na Llangrannog. Yr oedd cabanau pren Llangrannog wedi mynd i edrych yn hen ac yn dadfeilio’n gyflym. 1968 oedd y flwyddyn y sicrhawyd dyfodol yr Urdd yn Llangrannog yn barhaol. Ar ôl rhentu’r lle ar les blynyddol ar y dechrau ac yna cael prydles ym 1938, llwyddwyd i berswadio’r perchnogion i werthu fferm Ty Cwrt a diogelu dyfodol y gwersyll. Dyma ddechrau ar gyfnod newydd yn hanes y Gwersyll. Ar ddechrau’r 70au adeiladwyd caban bwyta a blociau cysgu newydd a oedd yn lletya 128 o bobl. Canlyniad y datblygiadau oedd fod 6,026 o wersyllwyr wedi mynychu’r gwersyll ym 1978 o’i gymharu â 2,722 yn 1972. Erbyn diwedd y 70au yr oedd yno sgubor fawr, pwll nofio, ysbyty, siop a champfa newydd. Erbyn dechrau’r 80au roedd grantiau gan y Swyddfa Gymreig yn galluogi’r Gwersyll i ehangu ac adeiladwyd neuaddau, ystafelloedd gwaith, stordy, sied feics a bloc cysgu ar gyfer 80 ychwanegol. Datblygodd gweithgareddau cymharol rhad ond effeithiol a oedd yn cynnwys beiciau modur, BMX, cwrs antur a sglefrolio. Bu’r cyfnod rhwng diwedd yr 80au a dechrau’r 90au yn gyfnod allweddol yn hanes y Gwersyll wrth i atyniadau modern ddenu’r ymwelwyr. Codwyd llethr sgïo, pwll nofio a llwybr ceffylau newydd. Erbyn canol y 90au Llangrannog oedd un o brif ganolfannau preswyl Cymru gyda’r adnoddau a’r cyfleusterau o’r safon uchaf posib. Codwyd bloc cysgu ‘Yr Hafod’, a chaban bwyta newydd yn y “gwersyll ger y lli”. Yn ystod y 70au hefyd agorwyd canolfan breswyl ym Mlaencwm yng Nghwm Croesor, sydd ar ochrau mynydd Cnicht, a chanolfan arall ym Mhentre Ifan yn Sir Benfro. Adnewyddwyd yr adeilad i fod yn lle addas i bobl ifanc i dreulio gwyliau byr yng nghefn gwlad Cymru.

Parhaodd Neges Ewyllys Da yn rhan annatod o weithgaredd blynyddol yr Urdd ac yn gyfrifoldeb a gymrwyd gan wahanol Aelwydydd bob blwyddyn. Datblygwyd ymgyrchoedd dyngarol a rhyngwladol y mudiad. Dros yr 80au a’r 90au gyda chynhorthwy gwirfoddol ac arian elusennol llwyddodd yr Urdd i gynorthwyo prosiectau yn Madagasgar, Mali a Bosnia yn 1993-95.

Ym maes chwaraeon parhaodd yr Urdd i fod yn flaenllaw. Ym 1960 ail sefydlwyd cwpan Pantyfedwen i Aelwydydd a threfnwyd dwy gystadleuaeth rygbi. O hyn ymlaen yr oedd gweithgareddau corfforol yr Urdd yn datblygu i fod yn fwy niferus ac amrywiol. Erbyn 1963 yr oedd 203 o Adrannau ac Aelwydydd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau, gan gynnwys pêl-droed, rygbi, hoci, pêl-rwyd, tenis bwrdd, dartiau a snwcer. Ar ddiwedd y 60au cynhaliwyd rowndiau terfynol y cystadlaethau chwaraeon i gyd ar un diwrnod yn Aberystwyth. Cymaint bu twf mewn gweithgareddau chwaraeon ers y 70au fel bu’n rhaid cynnal dwy wyl, un i’r aelodau o dan 15 ac un arall i’r aelodau hyn.

Erbyn y cyfnod mwy diweddar yn y 70au a’r 80au tyfu fu hanes y cylchgronau a oedd yn cael eu gwerthu hefyd. Addaswyd y cylchgrawn ‘Cymru’ gan newid rhywfaint ar y cynnwys a’i alw yn ‘Hamdden’. Roedd cyfanswm cylchrediad yr holl gylchgronau yn 43,850 y mis. Ym 1966 penderfynwyd cynhyrchu dau gylchgrawn i ddysgwyr sef ‘Bore Da’ i’r plant ieuengaf a ‘Mynd’ i’r dysgwyr hyn. Gyda’r ddau gylchgrawn lliwgar yma cynyddodd y cylchrediad eto i gyfanswm o 46,000 y mis. Yn ôl R. E. Griffith dyma oedd ‘y wyrth fwyaf oll mewn cyhoeddi Cymraeg’. Daeth ‘Hamdden’ i ben oherwydd colledion ariannol ond unwyd ‘Cymru’r Plant’ a ‘Deryn’ i ffurfio ‘Cip’. Parhawyd i gyhoeddi’r tri chylchgrawn ‘Cip’, ‘Bore Da’ a ‘Mynd’ o 1988, ac yn 90au newidiodd ‘Mynd’ yn ‘iaw!’ gan gydweithio gyda rhaglenni ail iaith poblogaidd Adran Addysg BBC Cymru ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd.

1990au i'r 2000au

90egau

Erbyn y 90egau roedd gan yr Urdd dri chylchgrawn poblogaidd oedd yn cael eu gwerthu i blant ar hyd ac ar led Cymru. Mae Cip yn cynnwys clecs, erthyglau, posteri, cystadlaethau, posau i siaradwyr Cymraeg dan 12 oed, Bore Da ar gyfer dysgwyr Cymraeg mewn ysgolion cynradd yng nghyfnod allweddol 1 a 2 o’r Cwricwlwm a iaw! ar gyfer dysgwyr uwchradd. Daw taflen athrawon gyda Bore Da ac iaw! i hybu eu defnydd yn y dosbarth hefyd. Cynhyrchir deg rhifyn o Cip, Bore Da ac iaw! yn flynyddol. Yn 1995 penodwyd dylunydd i weithio ar y cylchgronau a gwnaeth hyn lawer i newid diwyg a delwedd y cylchgronau a’u gwneud yn fwy atyniadol i blant heddiw. Trefnir pob math o weithgareddau i ymwneud â’r cylchgronau, a theithiau o amgylch ysgolion. Cyhoeddwyd dau Lyfr Jôcs Cipyn Caws, sef llyfr o jôcs gan ddarllenwyr Cip.

Yng Nglan-llyn yn 1995 agorwyd y Plas gyda phob math o ddarpariaeth newydd, fodern ar gyfer y gwersyllwyr. Agorwyd y lle yn swyddogol gan Bryn Terfel ac yr oedd yn cynnwys ystafelloedd en-suite, lolfeydd a darlithfeydd. Dros y blynyddoedd dilynol, gweddnewidiwyd y neuadd llafn-rolio, y pwll nofio a’r neuadd chwaraeon, a daeth staff a oedd yn arbenigo mewn gweithgareddau awyr-agored fel dringo, cerdded afon, rafftio dŵr gwyn i Lan-llyn. Bu Radio Cymru yn cynnal disgos yn y gwersyll a thrawsnewidiwyd y neuadd ddisgo gyda goleuadau a chyfarpar newydd i roi’r profiad gorau posib i’r gwersyllwyr.

Yr un mor gyffrous oedd y datblygiadau yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mro’r Preseli ym 1995 bu teuluoedd a chystadleuwyr yn aros yn y gwersyll, yn ogystal â chystadleuwyr Rasys Traws Gwlad y Gwledydd Celtaidd. O hynny ymlaen dechreuodd y Gwyliau Teulu ddod yn fwy poblogaidd, a deuai teuluoedd o bob oed i aros yn y gwersyll i gymdeithasu ac i fwynhau’r gweithgareddau amrywiol. Yr oedd y gweithgareddau yn newid ac yn datblygu hefyd. Ar ddiwedd y 90au daeth cwrs rhaffau, gwibgerti yn lle beiciau ffordd, a gweddnewidiwyd y neuadd llafnrolio.

Yn 1995,  crëwyd cysylltiad agos ag Unicef wrth ddathlu hanner-canmlwyddiant y Cenhedloedd Unedig. Canolbwyntiwyd ar Mali yng Ngogledd Affrica a chodwyd £10,000 i hybu gwaith Unicef yno. Mae Sul yr Urdd yn parhau hyd heddiw yn ogystal.  Mae ysgol neu griw o bobl ifanc o ardal wahanol bob blwyddyn yn cyhoeddi Neges Ewyllys Da.

Yr oedd 1997 yn flwyddyn bwysig i’r Urdd am ei bod yn dathlu 75 mlynedd ers sefydlu’r mudiad gan Syr Ifan ab Owen Edwards ym 1922. I nodi’r achlysur cynhaliwyd cyngerdd dathlu ym Mhafiliwn Corwen gyda pherfformiadau gan gôr o’r Aelwydydd, a sêr fel Bryn Terfel, Nerys Richards, Bethan Dudley, a Daniel Evans yn perfformio hefyd.

Yn ogystal, cynhaliwyd Jambori fawr yng Nghaerdydd gyda 10,000 o aelodau’r Urdd yn fôr lliwgar o faneri a pherfformwyr yn y strydoedd a gorymdeithiodd pawb i Fae Caerdydd.

Roedd datblygiadau a thechnoleg fodern yn galluogi Eisteddfod yr Urdd i roi profiadau bythgofiadwy i’r miloedd sy’n cystadlu ac yn ymweld â’r maes yn flynyddol.  Bu cynnydd yn y sefydliadau a'r cwmnïau sy’n cael eu cynrychioli ar y maes. Mentrodd yr Eisteddfod i bob cwr o Gymru er mwyn hybu Cymreictod, ac i ddenu plant a phobl ifanc o bob cefndir i gystadlu ac i fwynhau’r gweithgareddau. Eisteddfod Sir Islwyn ym 1997 oedd y tro cyntaf i’r Eisteddfod ymweld â’r hen sir Gwent.

Roedd darpariaeth chwaraeon yr Urdd yn mynd o nerth i nerth. Yn 1997 cymrodd dros 10,000 ran yn Chwaraeon yr Urdd gyda Gŵyl Chwaraeon Cenedlaethol, dwy Gala Nofio, a dwy Ŵyl Athletau. Dechreuwyd cydweithio gyda Chyngor Chwaraeon Cymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1999

Torrwyd tir newydd yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan hefyd pan gynhyrchwyd ffilm yn hytrach na sioe gerdd gan ieuenctid y fro. Tyfodd y nifer o ymwelwyr a oedd yn dod i faes yr Eisteddfod i dros 100,000 ar sawl achlysur a chaed atyniadau poblogaidd ar y maes megis gigs gan grwpiau fel Big Leaves, Eden, Diffiniad, a’r Super Furry Animals.. 

2000au

Yn 2000 dechreuwyd ar gynlluniau i ddatblygu ymhellach ac adeiladu Neuadd Chwaraeon, llety newydd i 150 a Chanolfan Treftadaeth yn Llangrannog; prosiect a fyddai’n costio £4 miliwn i gyd. Erbyn 2004 gwelwyd y gwersyll ar ei newydd wedd. Crëwyd maes parcio newydd, a llety newydd gyda 34 ystafell en-suite, Canolfan Hamdden a’r cae pob tywydd. Daeth Alun Pugh AC Gweinidog dros Ddiwylliant, yr Iaith Gymraeg a Chwaraeon i agor y lle. Mae’r Gwersyll yn hybu chwaraeon hefyd, a dechreuwyd Ysgol Haf Chwaraeon i blant a daeth 170 ar y cwrs cyntaf. Ac erbyn hyn mae hen adeiladau fferm Cefn Cwrt wedi ei haddasu yn Ganolfan Treftadaeth newydd sbon.

Yn 2001, er gorfod gohirio’r Steddfod oherwydd Clwy’r Traed a’r Genau, cynhaliwyd Gwyl yr Urdd, a chafwyd dwy ganolfan un yn y Gogledd ac un yn y De yn uno mewn dathliad a chystadlu. Arloeswyd mewn gwe-ddarlledu a chafwyd gwylwyr mewn gwledydd ar draws y byd.

Yn 2001 penodwyd pum swyddog chwaraeon i sicrhau bod y ddarpariaeth o’r safon uchaf posib. Yn y blynyddoedd diwethaf cynhaliwyd yr Wyl Rygbi Uwchradd am y tro cyntaf yn Llanelli gyda 108 o dimau adrannau ar draws Cymru wedi cymryd rhan, a chynhaliwyd y gemau terfynol ar Barc y Strade. Erbyn 2003 yr oedd yr ŵyl rygbi wedi ei ehangu i ddau ddiwrnod yn Llanelli, ac yn 2004 daeth 135 o dimau i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.. Daeth yr Urdd yn ‘Ganolfan Achrededig Safonol’ i redeg cyrsiau Arweinwyr Chwaraeon yn y gymuned. Yn 2005 cynhaliwyd yr Wyl Gymnasteg am y tro cyntaf am ddeuddydd yn Aberystwyth.   Yn 2006 cynhaliwyd y gystadleuaeth Aquathlon genedlaethol gyntaf yn Aberystwyth.


Yn 2002 darllenwyd Neges Ewyllys Da gan bedwar o ddisgyblion Ysgol Dyffryn Conwy yn y Senedd Ewropeaidd i 626 o aelodau Ewropeaidd ym Mrwsel ar Ddydd Ewyllys Da, ac yn 2006 darllenwyd y Neges yn y Senedd o flaen y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, ynghyd ag arweinyddion o wledydd eraill. Yn 2005 cyhoeddwyd y Neges gan Ysgol Gyfun Treorci, yr ysgol ail iaith gyntaf i baratoi'r Neges.
 

Gwelwyd Jambori fawr arall yn 2003 ym Mharc Margam gyda 2,000 o blant ardal yr Eisteddfod yn bresennol ar ddechrau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn yr ardal honno. Ar ddechrau mileniwm newydd aeth Mistar Urdd ar daith o amgylch ysgolion cynradd ac adrannau, ac ymwelodd â 607 o ysgolion ledled Cymru. Mae cân Mistar Urdd yn dal i fod yr un mor boblogaidd ag erioed ac fe ail recordiwyd y gân yn 2002 gan y grw^p pop CIC fel cyfrwng i ail danio’r Urdd yn dilyn ymgyrch gyhoeddusrwydd fawr wedi cyfnod y clwy traed a genau. Daeth Côr o Aelwydydd yr Urdd at ei gilydd unwaith yn rhagor i gyhoeddi bod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn dod i Gaerdydd yn 2005. Cydganodd y côr gyda Bryn Terfel ar lwyfan godidog Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Wrth i’r niferoedd a oedd yn mynychu Glan-llyn gynyddu o hyd, yn enwedig y gwersyllwyr hyn, aethpwyd ati i drefnu bod Canolfan Groeso a oedd yn cynnwys derbynfa, swyddfeydd newydd, theatr ddarlithio, ac ystafelloedd cysgu yn cael eu hadeiladu. Ailwampiwyd y Ganolfan Bowlio 10 gyda pheiriannau a sgriniau newydd, a pha ffordd well o ddangos y ddarpariaeth wych i’r byd na chael cyfres ‘pry ar y wal’ yn ffilmio popeth a oedd yn mynd ymlaen yn y Gwersyll? Agorwyd y Ganolfan Groeso newydd yn 2003 ac yn yr un flwyddyn penodwyd Swyddog Iaith, a chynhaliwyd cyrsiau sgiliau allweddol i ddisgyblion ysgolion uwchradd. Y datblygiad diweddaraf cyffrous yn y Gwersyll yw’r Cwrs Rhaffau uchel sydd wrth fodd y gwersyllwyr a’r staff! Mae cynlluniau ar y gweill i greu llwybrau beiciau a llwybrau troed diogel o’r Gwersyll i Lanuwchllyn.

Datblygiad mawr yn 2004 oedd Gwersyll yr Urdd Caerdydd. Mae’r Gwersyll newydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Mae lle i 150 i gysgu yno mewn ystafelloedd en suite ac mae yno theatr, lolfa, dwy ystafell ddosbarth, neuadd fwyta, a swyddfeydd i staff. Agorwyd y Gwersyll yn Nhachwedd 2004. Mae’r Gwersyll yn cynnig profiadau celfyddydol unigryw a chyfle i aelodau’r Urdd ymweld â holl atyniadau prifddinas Cymru – Stadiwm y Mileniwm, y Cynulliad, Techniquest, Sain Ffagan, Pwll Mawr, Castell Coch, Castell Caerdydd a mwy… mynd i weld sioe, gêm bêl-droed, criced, rygbi, hoci iâ neu fynd i weld ffilm neu i fowlio 10.

Yn 2005, am y tro cyntaf daeth yr Eisteddfod i Ganolfan Mileniwm Cymru a llwyfannwyd sioe Les Miserables gan Gwmni Theatr Ieuenctid Genedlaethol Cymru. Ers hynny mae Cwmni Theatr yr Urdd wedi cael ei ailsefydlu ac yn mynd o nerth i nerth.

Mae’r Urdd yn rhan o gynllun Bardd Plant Cymru, gyda S4C, Cyngor Llyfrau Cymru a'r Academi yn bartneriaid.  Mae beirdd adnabyddus fel Mei Mac, Ceri Wyn Jones, Tudur Dylan Jones a Mererid Hopwood wedi gwisgo mantell Bardd Plant Cymru, ac yn 2006-2007 penodwyd y Bardd Plant ieuengaf erioed, Gwyneth Glyn.  Bwriad y cynllun yw hybu barddoniaeth Gymraeg ymysg ein hieuenctid, a hynny'n bennaf drwy gyfrwng ymweliadau a gweithdai.

Heddiw ac i'r Dyfodol

Ymlaen i’r 100!

Yr Urdd yw’r mudiad mwyaf i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae gan y mudiad dros 53,000 o aelodau gyda 30% o holl siaradwyr Cymraeg rhwng 8-18 oed yng Nghymru yn aelodau. Mae gan yr Urdd 260 o staff,10,000 o wirfoddolwyr, 900 o ganghennau, gyda 200 yn ganghennau cymunedol.  Yn ogystal ceir 150 o glybiau chwaraeon sy’n cyfarfod yn wythnosol.

Mae bellach yn cyflogi 17 Swyddog Datblygu, ac mae tîm o weithwyr ieuenctid yn cefnogi eu gwaith.  Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddod o hyd i grantiau o amrywiol ffynonellau i gefnogi'r gwaith, yn ogystal â chreu incwm i’w fuddsoddi yn ein gwaith cymunedol.  Er enghraifft yn 2014 penodwyd chwech Swyddog Datblygu Cynorthwyo llawn amser am y tro cyntaf.

Ers 2010, buddsoddwyd bron i £4m arall yng Ngwersylloedd yr Urdd, Neuadd Eleanor yng ngwersyll Llangrannog, ac adnewyddu cegin yng Ngwersyll Glan-llyn yn ogystal â chodi bloc llety newydd.

Daeth prosiect sylweddol a ran-ariannwyd gan arian Ewropeaidd, Llwybrau i’r Brig, i ben yn 2013, ond mae bwriad i ddatblygu ceisiadau sylweddol i ddenu arian Ewropeaidd i’r dyfodol.  Roedd y prosiect yn llwyddiannus wrth gynnig achrediadau a phrofiadau cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg i bobl ifanc.

Yn 2013-14, cafwyd arian tuag at brosiect unigryw, Gweithio’n Gymraeg, gyda’r nod o newid agweddau pobl ifanc tuag at y Gymraeg a’u hannog i ystyried defnyddio’r Gymraeg wrth wneud dewisiadau gyrfa i’r dyfodol. Cyflogwyd chwech swyddog i weithredu’r prosiect ac unwaith eto bu’n llwyddiannus.

Mae gwaith Cwmni Theatr yr Urdd yn parhau, ac yn 2014 perfformiwyd ‘Cysgu’n Brysur’ yn Aberystwyth i gynulleidfaoedd llawn.  Yn ogystal, trefnir dwy sioe yn flynyddol gyda phlant a phobl ifanc sydd yn lleol i'r Eisteddfod i’w perfformio yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae Eisteddfod yr Urdd yn dal i ddatblygu ac yn 2014 symudwyd i system o gofrestru ar y we er mwyn cystadlu.  Cafwyd dros 46,000 yn cofrestru. Lansiwyd ap ar gyfer yr Eisteddfod, a chafodd ei lawrlwytho dros 15,000 o weithiau hyd yma.  Lansiodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones ap newydd ‘Fy Ardal’ ym mis Mai 2014 sy’n rhoi gwybodaeth am holl weithgareddau’r Urdd.

Mae Adran Chwaraeon yr Urdd, gyda chefnogaeth Chwaraeon Cymru, bellach yn cyflogi bron i 20 o staff ac yn hyfforddi dros 1,000 o wirfoddolwyr yn flynyddol. Mae hyn wedi trawsnewid ein gallu i gynnig gweithgareddau cyson trwy gyfrwng y Gymraeg i blant a phobl ifanc.

Amcan yr Urdd yw dod a’r Gymraeg yn fyw i blant a phobl ifanc Cymru  a chynyddu defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg.

Er mwyn gwneud hyn ein blaenoriaethau i’r dyfodol yw

  • Trefnu gweithgareddau a datblygu prosiectau sy’n cynyddu defnydd plant a phobl ifanc  o’r Gymraeg a chynyddu’r nifer o swyddogion ieuenctid sy’n gallu gwneud hyn.
  • Cynyddu gweithgaredd chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Sicrhau bod mwy o gyfle i blant a  phobl ifanc gymryd rhan yn yr Eisteddfod ac yn y celfyddydau. 
  • Parhau i ddatblygu gwersylloedd yr Urdd fel canolfannau o’r safon uchaf, a buddsoddi yn yr adnoddau.
  • Gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod y gwaith yn cyfrannu i strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.