Gwersyll Chwaraeon Llangrannog 2020

Cwrs chwaraeon heb ei ail gyda chyfle i ddysgu sgiliau rygbi gyda hyfforddwyr profiadol rygbi a sgiliau pêl-droed mewn cydweithrediad â’r Elyrch a'r Sgarlets. Bydd hefyd cyfle i fwynhau nifer o weithgareddau’r Gwersyll.

Chwilio am rywbeth i wneud yn ystod Hanner Tymor Chwefror?

8 – 12 oed?

Beth am Gwrs Chwaraeon yr Urdd, yr Elyrch a'r Sgarlets yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog?

17 - 20 Chwefror 2020

Chwaraeon_ir_wefan.jpg
Cyfle gwych i ddatblygu sgiliau pêl-droed a rygbi o dan ofal hyfforddwyr cymunedol profiadol Clwb Pêl-droed Abertawe a Chlwb Rygbi’r Sgarlets. Bydd pob plentyn hefyd yn derbyn nwyddau oddi wrth y ddau glwb! 

Gweddill yr amser bydd cyfle i chi fwynhau gweithgareddau’r Gwersyll gan gynnwys ein weiren sip newydd, y ganolfan ddringo, sgïo, beiciau modur a llawer mwy!

Rydym hefyd yn darparu llety o safon uchel a hyd at bedwar pryd o fwyd y dydd, a gellir darparu bwydlen
ar gyfer pob angen dietegol.

Cynhelir y cwrs o amser cinio’r dydd Llun hyd at amser cinio’r dydd Iau am bris o £150. Trefnir bws i gasglu a dychwelyd plant o fannau penodol ar draws Cymru (yn ddibynnol ar niferoedd) am uchafswm o £20 am y ddwy ffordd.

DIDDORDEB? Gallwch wneud cais fel grŵp o ffrindiau, drwy eich cangen Urdd leol neu fel unigolyn gan ddychwelyd y ffurflen i Wersyll Llangrannog. Gofynnir am ernes o 25% o’r tâl gwersyll (£37.50) a’r tâl bws yn llawn gyda’r cais. Ni ad-dalir y blaendal hwn oni bai mewn achosion arbennig ble cyflwynir tystysgrif meddygol mewn achos o salwch.  

 

Nol