JOIO Pasg 2020

Chwilio am eich antur fawr nesaf? Dewch ar gwrs Antur JOIO Pasg newydd sbon yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog!

DSCF0748_bach.jpg

 

DYDDIAD: 6-8 o Ebrill 2020

 GWEITHGAREDDAU

Gan ddefnyddio arfordir anhygoel Ceredigion bydd cyfle gwych i brofi weithgareddau awyr agored yn cynnwys arfordira, ceufadu, syrffio, a rafftio. Gyda’r nos, beth well na thaith i Langrannog a barbeciw ar y traeth? Bydd hefyd cyfle i fwynhau sesiynau byrddio eira a dringo yn y Gwersyll.

LLETY A BWYD

Bydd pedwar pryd blasus yn cael eu paratoi ar dy gyfer, beth bynnag fo dy anghenion dietegol. Bydd cyfle i ymlacio gyda dy ffrindiau wedi diwrnod llawn hwyl cyn cysgu mewn ystafelloedd en-suite.

BWS

Caiff bws ei drefnu i gasglu plant o fannau penodol ledled Cymru am uchafswm o £20. 

DIOGELWCH

Bydd gofal proffesiynol ar y safle 24 awr y dydd.

PRIS

£115 – yn cynnwys yr holl weithgareddau, llety a bwyd.

DIDDORDEB?

Rydym yn derbyn ceisiadau gan unigolion neu grŵp o ffrindiau. Archebwch drwy gwblhau’r ffurflen a’i anfon yn ôl atom yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Gofynnir am flaendal o 50% o’r tâl Gwersyll a’r tâl bws llawn. Anfonir gwybodaeth berthnasol ymlaen wedi derbyn eich cais am le ar y gwersyll.

Nol