Mae gan yr adeilad 2 lawr; ystafelloedd cysgu a’r toiledau ar un llawr a’r neuadd a’r gegin ar yr ail lawr, lle gwelir y prennau to gwreiddiol.
Llety
Mae’r ganolfan yn cysgu 18 o bobol mewn tair ystafell (yn cysgu 8, 6 a 2, ac mae 2 fatras arall ar gael). Hefyd, ceir cegin yn y ganolfan ar gyfer coginio hunangynhaliol. Mae’r neuadd yn medru eistedd hyd at 50 o bobol ac yn addas felly ar gyfer partïon, cyfarfodydd a phriodasau.
Bwyd
Gallwn gynnig amrywiaeth o fwydlenni o wledd 3 cwrs i bwffe. Darperir brecwast a phrydau o’r tŷ fferm sydd wedi’i leoli ar y safle neu ceir cegin yn y Ganolfan ar gyfer coginio hunangynhaliol.
Byddwn yn hapus i drafod eich anghenion arbennig gyda chi a pharatoi’r fwydlen i ateb y gofynion hyn.
Neuadd Fawr
Mae’r neuadd yn medru eistedd hyd at 50 o bobol ac yn addas felly ar gyfer partïon, cyfarfodydd a phriodasau.