Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel

gwefan_-_bryn_t.jpg

STEFFAN RHYS HUGHES YN CIPIO YSGOLORIAETH YR URDD BRYN TERFEL 2016

'Tri chynnig i Gymro’ medden nhw, ac ar nos Sul, Hydref 16 fe brofodd hynny yn wir i Steffan Hughes o Sir Ddinbych wrth iddo gipio Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2016 mewn noson wefreiddiol yn Y Stiwt, Rhosllannerchrugog. Noddir y wobr eleni gan Brifysgol y Drindod Dewi Sant.

Cyflwynwyd yr Ysgoloriaeth gwerth £4,000 i Steffan o flaen cynulleidfa’r Stiwt, ac yn fyw ar raglen arbennig ar S4C. Y gystadleuaeth oedd penllanw gweithgareddau Eisteddfod yr Urdd eleni.

Disgrifiodd y pump beriniad Ann Atkinson, Owain Llwyd, Gwennan Gibbard, Meinir Siencyn ac Ann Fychan berfformiad Steffan fel un cyfareddol. Yn gyn-ddisgybl o Ysgol Twm o’r Nant, Dinbych ac Ysgol Glan Clwyd mae bellach yn astudio cwrs BMus ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd Steffan,  “Roedd yn wych cael cystadlu heno, gan gael y cyfle i ddewis darnau fy hun a cheisio rhywbeth ychydig yn wahanol gyda’r darn Cerdd Dant.  Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o gwbl gan mod i wedi bod yna ddwywaith o’r blaen a heb ennill! Mi oedd pawb mor dda heno  - hollol ffantastig.

Gydag arian yr Ysgoloriaeth rwyf yn gobeithio datblygu fel perfformiwr gan ddefnyddio’r arian i dalu am hyfforddiant pellach a gwersi.” 

Yn ôl Dyfrig Davies, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod a’r panel o feirniaid “Roedd safon y gystadleuaeth heno yn aruchel gyda phob un ohonyn wedi ein cyffwrdd mewn rhyw ffordd.  Mi oeddem ni yn chwilio am gyfanwaith a dyna beth a gafwyd gan Steffan - mi oedd yr amrywiaeth a’r dyfeisgarwch yn ei raglen yn wych.

Mae’r Ysgoloriaeth hon yn rhoi cyfle nid yn unig i ni anrhydeddu unigolyn, ond hefyd i chwech perfformiwr ifanc arddangos eu talentau.  Mae’n brawf o gyfoeth y bobl ifanc sydd gennym fel cenedl.”

Ychwanegodd Gwilym Dyfri Jones, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, “Llongyfarchiadau gwresog i Steffan ar ei lwyddiant a hefyd i’r cystadleuwyr i gyd ar safon eu perfformiadau.  Mae Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi sefydlu ei hun fel cystadleuaeth sy’n annog pobl ifanc i fentro yn eu gwahanol ddisgyblaethau i anelu’n uchel. Mae’n gystadleuaeth bwysig sy’n meithrin doniau pobl ifanc yng Nghymru ac mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn falch iawn o’i chefnogi.”

Y chwech fu'n cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2016
Y chwech fu'n cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel 2016