Gwyliau Teulu Eisteddfod Maldwyn Meirionnydd 2027!
Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn Meirionnydd o fewn 45 munud i’r Gwersyll, mae Glan-llyn yn cynnig llety arbennig i deuluoedd sydd am fwynhau popeth sydd gan y Maes, yr ardal leol a gweithgareddau’r Gwersyll i’w gynnig.
Mi fydd llety mewn ystafell en-suite a brecwast yn gynwysedig yn y prisiau isod, ynghyd â defnydd o’r Pwll Nofio. Yn ogystal bydd trafnidiaeth i’r Maes ac yn ôl ar gael (nifer cyfyngedig) – felly cyfle perffaith i’r oedolion ymlacio.
Bydd modd trefnu ac archebu’r canlynol yn ychwanegol. Bydd hyn yn rhoi digon o hyblygrwydd i chi aros yn y Gwersyll am y diwrnod neu dreulio mwy o amser ar y Maes neu ar draeth Llyn Tegid:
· Pecyn bwyd
· Swper poeth
· Diwrnod o weithgareddau i’r teulu cyfan
Mae cyfnodau o 2 noson i 7 noson ar gael i’w harchebu ar y ddolen isod.
Llety a Bwyd: Ystafelloedd en-suite gyda gwelyau bync, cyfleusterau gwneud coffi gerllaw yn y lolfeydd, brecwast poeth wedi’i goginio ar eich cyfer, a dim golchi llestri!
Darperir bwydlen ar gyfer pob angen dietegol.
Bydd pecyn bwyd ar gael i’w archebu ar gyfer diwrnod ar y Maes neu ddiwrnod yn yr ardal leol.
Byddwch hefyd yn gallu archebu swper – digon o hyblygrwydd i gynllunio eich ymweliad.
Yr Ardal: Llyn naturiol mwyaf Cymru, Llyn Tegid, llwybrau cerdded a beicio, tafarndai a bwytai lleol, golygfeydd hyfryd a digon i’w weld a’i wneud.
Dyddiadau: Mae llety ar gael o ddydd Gwener y 30ain o Orffennaf i ddydd Gwener y 6ed o Awst 2027.
Prisiau: Gwely a Brecwast yn unig
2 noson
Oedolyn: £104.50
Plentyn 8+: £80.50
Plentyn 3-7: £60.00
Plentyn 0-2: am ddim
3 noson
Oedolyn: £129.50
Plentyn 8+: £100.50
Plentyn 3-7: £74.00
Plentyn 0-2: am ddim
4 noson
Oedolyn: £154.50
Plentyn 8+: £115.50
Plentyn 3-7: £86.00
Plentyn 0-2: am ddim
5 noson
Oedolyn: £174.50
Plentyn 8+: £130.50
Plentyn 3-7: £101.00
Plentyn 0-2: am ddim
6 noson
Oedolyn: £189.50
Plentyn 8+: £145.50
Plentyn 3-7: £116.00
Plentyn 0-2: am ddim
7 noson
Oedolyn: £203.50
Plentyn 8+: £160.50
Plentyn 3-7: £131.00
Plentyn 0-2: am ddim
Cam nesaf: I gadw eich lle, gofynnwn yn garedig am flaendal gwerth 25% o gyfanswm cost y gwyliau (dolen isod).
Am fwy o wybodaeth am wyliau teulu Gwersyll Glan-llyn ffoniwch 01678 541000 neu e-bostiwch glan-llyn@urdd.org
Talu blaendal yma