Oeddet ti'n gwybod?

Mis Mai 2021 fydd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael pleidleisio mewn etholiad yng Nghymru.

Beth yw Prosiect Pleidlais 16/17?

Dyma ymgyrch yr Urdd i godi ymwybyddiaeth o’r etholiad, ac i wneud yn siŵr fod pawb sydd gyda’r hawl i bleidleisio yn cofrestru, a chymryd rhan. Ni sydd bia’r dewis o bwy fydd yn llywodraethu Cymru am y 5 mlynedd nesaf.

Mi fyddwn ni’n rhannu gwybodaeth ar Sut i Bleidleisio ac yn trafod Pam fod pobl yn pleidleisio. Rydym ni eisiau cynyddu gwybodaeth am wleidyddiaeth Cymru, fel bod pawb yn teimlo’n hyderus wrth fwrw eu pleidlais ar Fai'r 6ed, 2021.

Ariannwyd y prosiect gan yr UK Democracy Fund trwy'r Joseph Rountree Reform Trust.

Sut i gymryd rhan?

Mae sawl ffordd o gymryd rhan. Isod, gelli weld manylion rhai o'r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â elangrug@urdd.org

At sylw Athrawon, neu rai sy'n gweithio â phobol ifanc:

Eisiau trefnu sesiwn wybodaeth efo grwp, neu eisiau gefnogaeth i drafod yr etholiad? Cysylltwch â elangrug@urdd.org

 

Cynhadledd ‘Ni Bia’r Dewis’

A yw gwleidyddion yn gwneud digon i weithio am bleidleisiau etholwyr ifanc? Ydi hi’n ddyletswydd i bobl ifanc bleidleisio, neu yn fraint? Ydan ni’n gwybod digon am ba bwerau sydd gan y Senedd?

Beth bynnag yr ateb, un peth sy’n sicr – Ni, bobl Cymru, bia’r dewis.

Cynhelir cynhadledd ‘Ni Bia’r Dewis’ yn rhithiol nos Iau’r 15fed o Ebrill am 7:00 o’r gloch. Bydd y gynhadledd yn cynnwys 12 siaradwr fydd yn mynd i’r afael a rhai o’r cwestiynau hyn, a llawer mwy, wrth i ni ddathlu pleidlais 16+.

Manylion am siaradwyr i ymddangos yn fuan.

Yn y cyfamser, cofrestra yma i dderbyn linc i’r digwyddiad, a manylion am y pecyn adnoddau fydd ar gael i ysgolion a grwpiau ieuenctid.


 Ydw
 
Invalid entry