Mae Y Sgwrs yn gyfres o ddigwyddiadau digidol i oedran 14-25 yn ymdrin â materion sy'n effeithio bywydau pobl ifanc heddiw.

Ar y gweill mae sesiynau wedi'w harwain gan arbenigwyr ar iechyd meddwl, newid hinsawdd, hawliau merched, LGBT, iechyd rhyw, cyngor gyrfa a mwy.

Yn y cyfnod cythryblus hwn, rydyn ni'n awyddus iawn i roi lle diogel i bobl ifanc siarad yn agored, i ddysgu gan arbenigwyr neu i wrando'n ddienw i ddod o hyd i atebion am y materion sy'n eu heffeithio.

Does dim pwysau i gyfrannu na hyd yn oed dangos eich wyneb yn y sesiynau – mae croeso i chi wrando, dysgu neu ofyn cwestiynau yn ddienw a heb roi eich camra ymlaen.

Sut i gymryd rhan?

1. Cofrestrwch ar y sesiynau sydd o ddiddordeb i chi.

2. Ar ddiwrnod y sesiwn fe fyddwch yn derbyn linc a chyfrinair i gael mynediad.

3. Wedi rhoi'r cyfrinair i mewn, fe fyddwch yn mynd i 'Ystafell Aros', a byddwn yn rhoi caniatad i chi ymuno â'r sesiwn.

2022

 

Creu Busnes gyda Gari Wyn

Nos Fawrth, Mawrth 15fed

19:00 

Sgwrs gyda’r dyn busnes Gari Wyn yn trafod mentergarwch a sut i fynd ati i greu busnes dy hun.

 

Cofrestru
 

Byw'n Wyrdd gyda Sara Ashton-Thomas

Nos Fawrth, Ebrill 19eg

19:00

Sgwrs gyda Sara Ashton-Thomas o gwmni GwyrddNi sef mudiad newid hinsawdd gymunedol.

Cofrestru
 

Tor Cyfraith gyda Gruffudd Ifan

Nos Fawrth, Mai 17eg

19:00

Sgwrs gyda Gruffudd Ifan o Heddlu Dyfed-Powys am dor cyfraith.

Cofrestru

Oes rhaid mi gadw'r camera 'mlaen?

Na does dim rhaid i ti cadw dy gamera 'mlaen yn ystod y sesiwn os nad wyt yn teimlo'n digon hyderus i wneud.

Oes disgwyl i mi siarad a / neu cyfrannu?

Na does dim disgwyl i ti siarad na chyfrannu yn ystod y sesiwn, y pwysig ydy dy fod yn cael allan o'r sesiwn beth wyt ti isio allan ohono.  Ond hefyd mae croeso i ti siarad / cyfrannu yn ystod y sesiwn os hoffet hefyd.

Beth os mae pobl eraill yn chwerthin arnaf?

Mi fydd aelodau o staff yr Urdd yn y cefndir yn monitro bob agwedd o'r sesiwn er mwyn sicrhau bod pawb sydd yn y sesiwn yn ddiogel ac saff.

Ein Partneriaid

Ydw i'n cael cofrestru am fwy nag un sesiwn?

Wrth gwrs, mae yna croeso mawr i ti cofrestru ar gyfer bob sesiwn os hoffet.

Byddwn yn cael ein rhag rhybuddio os bydd darn o'r trafodaeth sensitif yn mynd i gallu achosi 'triggers'?

Yn ystod y sesiwn os oes unrhyw darn o'r cyflwyniad ble mae'r arweinydd yn meddwl gall hwn achosi poen meddwl i rhwyun mi fydden nhw'n defnyddio'r gair 'Trigger' ac yna mae croeso i ti miwtio / troi'r sain lawr ac ail ymuno wedi'r trafodaeth yna, neu ymadael y sesiwn yn gyfan gwbwl.

Pam bod rhaid i mi llenwi ffurflen cofrestru?

Rydym yn gofyn i bawb llenwi ffurflen cofrestru er mwyn diogelu chi fel pobl ifanc ac hefyd er mwyn weld faint fydd gennym ar y sesiwn.  Paid a phoeni ni fydd yr Urdd yn rhannu eich manylion gyda neb arall ( oni bai bod yna achos diogelu plentyn)