Teitl y Swydd: Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol
Math o gytundeb: Swydd barhaol
Graddfa: Graddfa 7 o £25,669 (pwynt 1) - £29,757 (pwynt 6).
Lleoliad: Hyblyg. Gweithio o adref i gychwyn ac yna o un o swyddfeydd yr Urdd ar draws Cymru
Amdanom ni
Mae’r Urdd wedi meithrin cenedlaethau o ferched a dynion ifanc i fod yn falch o’u gwlad, yn agored i’r byd ac yn ymgorfforiadau o’n hiaith a’n diwylliant, yn ogystal â meddu ar y gwerthoedd byd-eang y parchir yng Nghymru.
Ar drothwy ein canmlwyddiant, dyma ddatgan ein huchelgais heriol i ymestyn cyrhaeddiad ac effaith ein gwaith. Mae hyn yn allweddol os ydym am i’r Gymraeg fod yn ganolog ym mywydau plant a phobl ifanc Cymru, a sicrhau fod pawb yng Nghymru, boed yn siaradwyr Cymraeg ai pheidio, yn teimlo perchnogaeth ac ymdeimlad o berthyn tuag at yr iaith a’i thraddodiadau.
Y Swydd
Dyma gyfle arbennig i unigolyn brwdfrydig a phrofiadol i sicrhau fod proffil yr Urdd yn flaengar a chyfoes gan gynyddu ar ein cyrhaeddiad gyda syniadau ac ymgyrchoedd trawiadol i fynd a’r Urdd tuag at ein canmlwyddiant yn bositif.
Bydd y swyddog yn gyfrifol am arwain ein cynnwys ar ein llwyfannau digidol sy’n cynnwys y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan gan sicrhau fod ein cyfathrebu digidol yn berthnasol, yn apelgar ac amserol.
Bydd y swyddog yn rhan o Adran Gyfathrebu’r Urdd yn arwain ar yr elfennau a chynhyrchu digidol ond yn cydweithio gydag aelodau eraill yr adran i sicrhau cyfathrebu a marchnata effeithlon i godi proffil ac ymwybyddiaeth o holl waith a gweithgareddau’r Urdd.
Am fwy o fanylion cliciwch yma am ddisgrifiad swydd neu am sgwrs bellach cysylltwch â Mali Thomas - Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Materion Rhyngwladol yr Urdd ar 07834 709082 / mali@urdd.org
Anfonwch Ffurflen Gais yr Urdd ar e-bost at swyddi@urdd.org
Dyddiad Cau – 25 Chwefror 2021
Dyddiad Cyfweld – 3 Mawrth 2021