Golau gwyrdd i gynnal cyrsiau preswyl i ysgolion cynradd

Yn dilyn diweddariad Llywodraeth Cymru i ‘Ganllawiau Gweithredol i Ysgolion a Lleoliadau’, mae hi bellach yn bosib i ysgolion drefnu ymweliadau preswyl ar gyfer dysgwyr oed cynradd i ganolfannau addysg awyr agored. O ganlyniad, mae Gwersyll yr Urdd Glan-llyn, Llangrannog a Chaerdydd yn croesawu ymholiadau gan ysgolion cynradd i drafod y bosibilrwydd o gynnal cyrsiau preswyl ar gyfer grwpiau cyswllt (neu ‘swigod’).

Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda’r Gwersylloedd yn uniongyrchol:

Gwersyll yr Urdd Glan-llyn

Gwersyll yr Urdd Llangrannog

Gwersyll yr Urdd Caerdydd

Mae’r Urdd yn cefnogi cyngor a chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â Covid-19, ac yn monitro’r sefyllfa yn barhaus er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud popeth posib i leihau risg. Fel gyda phob un o wasanaethau a gweithgareddau’r Urdd, mae diogelwch a llesiant ymwelwyr y canolfannau, ynghyd â staff a gwirfoddolwyr y mudiad yn holl bwysig.