Urdd Gobaith Cymru - Ein hymrwymiad Sero Net mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd

Rydym wedi ymrwymo i leihau ein hôl-troed carbon a gwella ein heffeithlonrwydd ynni mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd.

O dan reoliadau Adroddiadau Ynni a Charbon Syml (SECR) mae'n ofynnol i’r Urdd adrodd yn flynyddol ar allyriadau nwyon tŷ gwydr Cwmpas 1 a 2, Trydan, Nwy a Thrafnidiaeth. 

Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr yr Urdd wedi cytuno bod yn rhaid i ni leihau ein defnydd o ynni, i ddod o hyd i ddewisiadau amgen o ynni adnewyddadwy, ac i edrych yn feirniadol ar ein heffaith ar yr hinsawdd ar draws ein holl ddarpariaeth, ac i weithredu.

Mae cynllun gennym ar waith i gyflawni Sero Net erbyn 2050.

Sero Net yw’r term a ddefnyddir pan fo cwmni wedi lleihau eu hallyriadau nwyon tŷ gwydr mor agos at sero â phosib, gyda’r allyriadau sy’n weddill yn cael eu tynnu o’r atmosffer drwy wrthbwyso carbon.

Mae ein cynllun yn gydnaws â Chytundeb Paris 2015 sy'n anelu at gadw'r cynnydd mewn tymheredd byd-eang o dan 1.5C gradd. Mae hyn yn golygu y bydd angen gwneud newidiadau sylfaenol ac arwyddocaol.

Bydd ein cynllun yn cyd-fynd â'r Targedau sy’n Seiliedig ar Wyddoniaeth ar gyfer y gwasanaethau rydym yn eu darparu a'r gadwyn gyflenwi (cwmpas 1, 2 a 3).

Ein Targed Sero Net

Mae ein hadroddiad SECR blynyddol yn nodi mai Canolfannau Preswyl Llangrannog a Glan-llyn sy’n cynhyrchu’r rhan fwyaf o’n hallyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn defnyddio’r swm mwyaf o ynni.

Drwy gynyddu ein defnydd o ynni adnewyddadwy a gwella ein heffeithlonrwydd ynni, ein nod yw lleihau ein hallyriadau carbon ar gyfer Cwmpas 1 a 2 90%, a’n hallyriadau Cwmpas 3 97% erbyn 2050 fan bellaf.

Ein Camau Gweithredu

Byddwn yn cyhoeddi asesiad blynyddol SECR o’n hôl-troed carbon a’n hallyriadau nwyon tŷ gwydr.

Mae camau gweithredu effeithlonrwydd ynni ac allyriadau ar gyfer ein hadeiladau yn cynnwys:

  • Gwella inswleiddio a lagin adeiladau Canolfannau Preswyl Llangrannog a Glan-llyn
  • Mae Pentre Ifan, gwersyll amgylcheddol cyntaf yr Urdd (i’w agor ym mis Rhagfyr 2022) wedi cael ei ailddatblygu i leihau allyriadau carbon ac ynni
  • Cynyddu ein defnydd o ynni adnewyddadwy drwy fuddsoddi parhaus mewn paneli solar i gynhyrchu trydan
  • Newid i gyflenwr trydan adnewyddadwy
  • Cael gwared ar wresogyddion dros y drysau
  • Disodli ein dibyniaeth hir dymor ar nwy LPG
  • Lleihau gwastraff

Ymestyn ein cynllun i gynnwys Cwmpas 3

  • Yn 2022, byddwn yn cynnal ein harchwiliadau gwaelodlin ar gyfer allyriadau cwmpas 3, sy’n cynnwys yr holl allyriadau anuniongyrchol eraill sy’n digwydd o ganlyniad i bryniadau a wnawn i gyflawni ein darpariaeth.
  • Lleihau’r defnydd o blastig a phapur a gwastraff yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac mewn digwyddiadau eraill.

Gwrthbwyso carbon

Byddwn yn gweithio gyda Choed Cadw yng Nghymru a phartneriaid eraill i roi camau gwrthbwyso ystyrlon a mesuradwy ar waith fel cam gweithredu eilaidd i wella effeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau. 

Newid ymddygiadau

Fel cyflogwr trydydd sector mwyaf Cymru byddwn yn hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol a fydd yn ysbrydoli ein haelodau, gwirfoddolwyr a chyflenwyr i wella eu heffeithlonrwydd ynni a lleihau allyriadau. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Rhestr o newidiadau ymddygiad i staff a gwirfoddolwyr eu mabwysiadu
  • Defnydd parhaus o dechnoleg ddigidol, e.e. cyfarfodydd ar-lein

Ymgyrchu ac addysg

Ym Mhentre Ifan, a thrwy ein darpariaeth, bydd gweithgareddau i ddysgu a deall yr argyfwng hinsawdd ymhellach, a fydd yn grymuso pobl ifanc i ystyried effaith eu gweithredoedd ar newid hinsawdd.