Partneriaeth Newydd Rhwng Chwaraeon Yr Urdd a Net World Sports
Mae Adran Chwaraeon yr Urdd yn falch iawn i gyhoeddi partneriaeth newydd gyda Net World Sports
Mi fydd y cwmni, sydd wedi'i leoli yn Wrecsam, yn darparu'r offer ar gyfer ein cystadlaethau Uwchradd a Cynradd i helpu gwella'r profiad i'r rhai sy'n cymryd rhan.
Mae'r bartneriaeth yn mynd ym mhellach na'r cystadlaethau, gyda chynnig arbennig i ysgolion, colegau ac unigolion sydd yn ymwneud a'r adran Chwaraeon. Mi fydd cod unigryw yn cael eu rhannu gydag ein haelodau fel rhan o'r cynnig hefyd.
Rydym yn cynnig nifer o gyfleoedd i bobl ifanc cystadlu a chwarae amryw o chwaraeon gwahanol, felly mae'r partneriaeth yma'n berffaith am fod 'Net World Sports' yn cynnig offer o safon uchel ar gyfer gymaint o chwaraeon gwahanol.
"Rydym yn hapus iawn i allu gweithio'n agos gyda chwmni Gymraeg arall i gynnig profiad gwell i ein haelodau ac i'r rhai sy'n cymryd rhan yn ein cystadlaethau. Maen pwysig iawn i ni hefyd i weld bod ein haelodau yn manteisio o'r cynnig hefyd. Edrychwn ymlaen at weld partneriaeth yma tyfu yn y dyfodol." Tom Birkhead, Rheolwr Digwyddiadau Chwaraeon yr Urdd
I weld yr hyn mae Net World Sports yn gynnig, ymwelwch â'r wefan trwy clicio: YMA
Fel rhan o gyhoeddi'r bartneriaeth, rydym yn falch i allu cynnig 20% i ffwrdd unrhyw archeb wrth i chi defnyddio'r cod: URDD20
Os ydych efo diddordeb cystadlu mewn unrhyw un o ein cystadlaethau chwaraeon neu i weld yn union beth rydym yn cynnig, dilynwch y ddolen olynnol: