Oherwydd sefyllfa bresennol y Coronafeirws yng Nghymru, mae Gwersyll Caerdydd ar gau nes bydd rhybudd pellach. Mae croeso i chi gysylltu â ni, neu dilynwch y linc am atebion i gwestiynau cyffredin am yr Urdd a'r Coronafeirws.
Cyrsiau ar y gweill yma yn y gwersyll!
Deallwn fod rhieni yn bryderus pan fo plant yn aros ffwrdd o’r cartref. Fe wnawn ein gorau i sicrhau bod gennych yr holl wybodaeth am ymweliad eich plentyn.
Dewch i Wersyll Caerdydd ar wersyll haf! Cymerwch olwg ar y gwersylloedd haf sydd ar gael yma.
Mae tîm y Gwersyll yn gweithio’n agos gydag amryw o gwmnïau ac atyniadau’r brifddinas i gynnig amserlen o weithgareddau llawn cyffro i’n hymwelwyr
Cynigir llety safonol gyda 153 o wlâu mewn ystafelloedd ‘ensuite’. Gellir cynnig arlwyo llawn, gwely a brecwast neu gynnig pecyn sy’n ymateb i'ch gofynion chi.