Mae gennym ystod eang o weithgareddau, clybiau a chyrsiau i grwpiau o bob maint yma'n y Gwersyll. Mae hyn i gyd yn darparu cymorth i athrawon sydd am fynd a'u disgyblion ar daith breswyl er mwyn gwneud y gorau o ddysgu 'tu allan i'r ddosbarth'
Mae’r Gwersyll yn gweithredu ar ethos o ddysgu drwy weithgaredd. Cynigir cyrsiau amrywiol neu gallwn greu cwrs penodol ar gyfer eich anghenion.
Mae tîm y Gwersyll yn gweithio’n agos gydag amryw o gwmnïau ac atyniadau’r brifddinas i gynnig amserlen o weithgareddau llawn cyffro i’n hymwelwyr.