Rydyn ni'n edrych ymlaen at eich croesawu!

Dewch o hyd i atebion i rai o gwestiynau mwyaf cyffredin am ymweliad â Gwersyll Glan-llyn neu Wersyll Glan-llyn Isa'.

Mae'r dogfennau mwyaf diweddar y gwersyll sydd yn ateb y cwestiynau mwyaf cyffredin ynglŷn â'ch ymweliad yma i'w gweld yn yr adran 'Dogfennau Defnyddiol'.

Rhieni ac Arweinwyr

Er bod y rhan helaeth o athrawon a rhieni yn cydnabod fod cyrsiau preswyl yn cynnig profiadau amhrisiadwy i blant a phobl ifanc deallwn fod nifer fawr yn bryderus am drefnu’r fath dripiau yn yr hinsawdd gymdeithasol bresennol. Rydym yn deall y pryderon yma ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau pob cefnogaeth i ysgolion trwy gydol y broses. Mae strwythurau pendant mewn lle sydd yn sicrhau diogelwch plant, athrawon ac oedolion yn ystod eu harhosiad

Pa eitemau mae fy mhlentyn angen ar gyfer yr ymweliad i Glan-llyn? 

Yma yn y Gwersyll mae amrywiaeth eang o offer technegol arbenigol ar gael i’w fenthyg yn ystod eich cwrs. Yr offer sydd ar gael yw siwt wlyb, dillad glaw, sachau cario ayyb. Os oes gennych chi offer technegol personol mae croeso i chi ddod â’r eitemau yma gyda chi. Byddwch angen hefyd...

  • 2 bâr o hen dreinyrs
  • 2 bâr o drowseri cynnes (dim jîns)
  • 2/3 top cynnes (fleece os yn bosib)
  • 2/3 crys T (ceisiwch osgoi cotwm)
  • Dillad isaf
  • Gwisg/shorts nofio
  • 2 dywel
  • Het a menig cynnes (gaeaf)
  • Dillad glaw 
  • Dillad nos
  • Sach gysgu 
  • Gorchudd gobennydd
  • Offer ymolchi
  • Bag bin ar gyfer dillad gwlyb
  • Os ar gwrs iaith/ daearyddiaeth – pensil a phapur
  • Esgidiau glaw/ esgidiau cerdded

Oes yna eitemau na chaniateir? 

Ni ddylai eich plentyn ddod a’r canlynol

  • MP3 neu ipod
  • Cyllell boced
  • Ysgrifbin felt
  • Gemau fideo neu unrhyw ddyfais ddrud (ipad, cyfrifiadur tabled ac ati)
  • Gwm cnoi
  • Chwistrellydd aerosol
  • Tybaco, alcohol neu unrhyw gyffur nas ceir ar bresgripsiwn (dylid nodi unrhyw gyffur sydd ar bresgripsiwn ar y dystysgrif iechyd)
  • Ffôn symudol- Dylid cael caniatâd arweinydd y cwrs cyn dod a ffôn symudol i’r gwersyll. Gall gwersyllwyr ddefnyddio ffôn y swyddfa os oes angen.

Ni fyddwn yn gyfrifol am ddiogelwch neu unrhyw ddifrod i’r eiddo uchod os daw plant a nhw i’r gwersyll.

Oes modd i fy mhlentyn ffonio adref? 

Os gwelwch yn dda, peidiwch â threfnu bod eich plentyn yn ffonio adref ar ddechrau’r cwrs. Os nad ydych yn clywed gennym, gallwn sicrhau'r bod eich plentyn yn hapus ac yn saff. Fe fyddwn yn cysylltu â chi yn syth petai broblem feddygol neu hiraeth am adref yn codi. Os oes gennych neges i’ch plentyn mae croeso i chi adael neges gyda’r dderbynfa (01678 541 000) neu drwy e-bost glan-llyn@urdd.org. Fe wnawn sicrhau'r bod y neges yn cael ei basio ymlaen.

Beth yw’r drefn os yw fy mhlentyn â phroblem tra yn y Gwersyll?

Mae aelod o staff yr Urdd yn bresennol yn ystod arhosiad eich plentyn. Felly os oes gan eich plentyn unrhyw broblem neu ofid bydd staff wrth law i helpu ac i ddelio gyda unrhyw fater yn syth.

Lle fydd my mhlentyn yn cysgu? 

Mae pob plentyn yn cysgu mewn ystafelloedd gwely “en-suite” gyda gwres canolog. Mae’r plant yn gyfrifol o wneud eu gwlâu a chadw eu hystafell yn daclus. Rydym yn sicrhau'r bod bob plentyn yn ymwybodol o leoliad ystafelloedd staff sydd gerllaw.

Bwyta yng Nglan-Llyn

Rydym yn gweini pedwar pryd bwyd y dydd (Brecwast, cinio, te a swper) gyda bwydlen wahanol i lysieuwyr. Os oes unrhyw anghenion dietegol neu alergeddau gan eich plentyn, nodwch hyn ar y dystysgrif iechyd a gallwn sicrhau bwyd addas ar eu cyfer.

Iechyd a Diogelwch

Er bod y rhan helaeth o athrawon a rhieni yn cydnabod fod cyrsiau preswyl yn cynnig profiadau amhrisiadwy i blant a phobl ifanc deallwn fod nifer yn bryderus am drefnu’r fath dripiau yn yr hinsawdd gymdeithasol bresennol. Rydym yn deall y pryderon yma ac wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau pob cefnogaeth i ysgolion trwy gydol y broses. Mae strwythurau pendant mewn lle sydd yn sicrhau diogelwch plant, athrawon ac oedolion yn ystod eu harhosiad

Rydym yn gweithredu'r camau yma i sicrhau diogelwch yn ystod gwrs preswyl

  • System CCTV
  • Goruchwyliwr Nos
  • Rheolwr ar ddyletswydd- Mae un o dîm rheoli'r Gwersyll ar alwad drwy'r nos.
  • Panel cod ar ddrysau blociau llety- Mae'n rhaid nodi cod i mewn i'r panel er mwyn datgloi drws blaen y bloc llety
  • Cymorth Cyntaf- Staff cymwysedig a chymorth cyntaf ar bob gweithgaredd, yn ogystal â'r rheolwyr sydd ar alwad dydd a nos. Hefyd mae Ystafell Cymorth Cyntaf ar gael ar gyfer cadw meddyginiaeth dan glo.
  • Ffurflenni Iechyd – Cyfle i rieni ddatgelu unrhyw broblem / anghenion arbennig (gweler y ffurflen amgaeedig)
  • Diogelwch Tân- Caiff dril tân ei gynnal gyda phawb sydd yn cyrraedd y Gwersyll
  • Radio cyfathrebu- Mae staff gweithgareddau, swyddfa a rheolwyr mewn cysylltiad cyson â'i gilydd drwy radio.
  • Asesiadau Risg ar gyfer pob gweithgaredd
  • Swyddog NEBOSH llawn amser sydd yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch