
Mae’n bwysig cofio, yn ogystal â gwyliau bach oddi cartref mai gwyliau addysgiadol Cymreig yw ymweliad â Glanllyn.
Yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau anturus mae’r plant yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau bywyd o ddydd i ddydd, fel trefnu eu dillad am y cwrs, pacio bag eu hunain, sicrhau eu bod yn y lle priodol ar yr amser cywir. Rydym yn gofyn i blant glirio a glanhau eu hystafelloedd a helpu gyda swyddi domestig amser cinio. Mae’r mân bethau yma yn rhan bwysig o’u profiad oddi cartref. Mae’n ddigon posib mai’r sialens anoddaf i rai plant fydd edych ar ôl a threfnu eu dillad yn hytrach na’r cwrs rhaffau uchel!
