Cynhelir pob cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg
Er fod y cyrsiau Anturdd Iau/Anturdd Fawr/Anturdd i’r Eithaf yn cyd-redeg, bydd amserlen a blociau llety ar wahân ar gyfer pob cwrs.
Gellir trefnu bysus yn ôl y galw (am bris ychwanegol)
Er y byddwn yn ceisio cynnig amserlen llawn antur yn ystod holl gyrsiau, mae rhai gweithgareddau yn ddibynnol ar dywydd neu amgylchiadau thu hwnt i reolaeth y gwersyll.
Cliciwch yma i archebu
Anturdd Iau
Blwyddyn 3-6
Ble gwell i dreulio amser dros wyliau'r Haf na yng Nglan-llyn. Fe gei gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwych y gwersyll - canŵio, adeiladu rafft, dringo, cwrs rhaffau a llawer mwy. Bydd yr hwyl yn parhau gyda'r hwyr, gyda amser i fwynhau a chymdeithasu gyda ffrindiau newydd yn ystod ein gweithgareddau nos. Fe fyddi di'n creu atgofion am oes!
Pris
£125 - 149
Dyddiadau
Ebrill 23-26 / Gorffennaf 24-26
CLICIWCH YMA I WELD FIDEO ANTURDD IAU!
Anturdd Fawr
Blwyddyn 7-9
Byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau anturus ar dir ac ar ddŵr - canŵio, hwylio, rhwyfyrddio, gwyllt-grefft, ceufadu, gala llyn, dringo, cwrs rhaffau uchel, cerdded afon ac os yw’r amodau yn caniatáu; rafftio dŵr gwyn. Bydd rhaglen llawn o weithgareddau ar gyfer y min nos hefyd; nofio, ffilmiau, disgo, tân, falle cysgu dan y sêr, gyda digon o gyfle i wneud ffrindiau o bob cwr o Gymru.
Pris
£149 - £195
Dyddiadau
Ebrill 23-26 / Gorffennaf 22-26 / Awst 28 - Medi 1
CLICIWCH YMA I WELD FIDEO ANTURDD FAWR!
Anturdd i'r Eithaf
Blwyddyn 10-13
Dyma weithgareddau’r Urdd ar eu mwyaf anturus. Ymysg y llu o weithgareddau, byddwch yn teithio drwy geunentydd, mynydda, dringo creigiau, rhwyfyrddio, cyflawni sialensiau cyfeiriannu, hwylio, ceufadu a meistroli’r cwrs rhaffau uchel ac os yw’r amodau yn caniatáu; rafftio dŵr gwyn, a syrffio
Pris
£295
Dyddiadau
Gorffennaf 22-26
CLICWICH YMA AM FWY O WYBODAETH!

