Mae llu o weithgareddau dŵr a thir ar gael, gyda pob un yn cael eu harwain gan ein staff cymwys a phroffesiynol.
Mae gennym ddwy wal ddringo yn y Gwersyll ar gyfer datblygu sgiliau sylfaenol a chael profiad o’r grefft. Wrth ddringo cewch gyfle i ddatblygu a deall yr angen i ymddiried yn eraill.
Cyfle i chi brofi eich nerfau wrth i chi sefyll 30 troedfedd uwchben y ddaear. Mae nifer o elfennau gwahanol i’r cwrs rhaffau. Mae’n gyfle da i chi ddatblygu sgiliau asesu risg.
Cynigir arweiniad cychwynnol ym maes saethyddiaeth yn ystod y weithgaredd newydd yma. Byddwch yn derbyn hyfforddiant ar sut i lwytho a saethu eich saeth mewn awyrgylch rheoledig a diogel
Tybed a fyddai gennych chi ddigon o ddychymyg i adeiladu rafft i’ch dal chi a holl aelodau eich tîm? Prawf yw hwn ar eich gallu i gyfathrebu yn effeithiol ac ar eich sgiliau gweithio fel tîm.
Gall hyn amrywio o daith ar y llyn mewn canŵ agored tandem gyda ffrind, neu ar gyfer ychydig o hwyl fe ellir clymu’r canŵs at ei gilydd er mwyn creu un rafft fawr ar gyfer chwarae gemau. Mae’n gyfle arbennig i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chydweithio
Mae gennym ddewis helaeth o gychod hwylio sy’n addas ar gyfer amrywiol alluoedd ac amgylchiadau. Yn ogystal â datblygu sgiliau hwylio gallwch ddatblygu eich gwybodaeth wyddonol sydd ynghlwm â’r chwaraeon cyffrous hwn.
Gyda defnydd o sawl afon a cheunant cyffrous ar ein carreg drws, mae cerdded afon wedi tyfu i fod yn weithgaredd poblogaidd iawn. Mae cyfle i brofi eich sgiliau asesu risg, gwaith tîm a hunan hyder wrth ddringo rhaeadrau, neidio i byllau a chropian drwy dyllau.
Cewch gyfle i herio’ch ffrindiau i weld pwy ddaw i’r brig yn ein Canolfan Bowlio Deg. Gweithgaredd wych i bob oedran
Mae’r gweithgaredd yma yn amrywio o ddefnyddio ceufad agored neu geufad traddodiadol. Mae’n gyfle i unigolion ddatblygu eu sgiliau ceufadu, yn ogystal â sgiliau hunan hyder wrth gymryd rhan mewn gemau anturus a gwlyb.
Yma byddwch yn datblygu eich sgiliau map, gwaith tîm a chyfathrebu wrth ddilyn cwrs cyfeiriannu o amgylch y gwersyll. Gyda chyrsiau sy’n amrywio mewn lefel gallu, mae’r weithgaredd yma’n wych ar gyfer pob ystod oedran. Mae cyfeiriannu yn weithgaredd gyffrous gydag elfen gystadleuol.
Mae pob tasg wedi ei chynllunio fel bod rhaid i chi weithio gyda’ch gilydd fel grŵp. I lwyddo, rhaid i bob grŵp gyfathrebu a chydweithio. Mae dychymyg da yn hanfodol ar gyfer y weithgaredd hon, a digon o hiwmor rhag ofn i bethau fynd o chwith.
Gweithgaredd hwyliog sy'n amrywio o ddefnyddio padlfyrddau unigol a rhai ar gyfer grwpiau. Cyfle i unigolion ddatblygu eu sgiliau padlfyrddio a bod yn hyderus wrth sefyll ar y bwrdd.