Mae tîm y Gwersyll yn gweithio’n agos gydag amryw o gwmnϊau ac atyniadau’r brifddinas i gynnig amserlen o weithgareddau llawn cyffro i’n hymwelwyr.
Canolfan wyddoniaeth ym Mae Caerdydd yw Techniquest. Fe'i agorwyd ym 1986, ac ers hynny agorwyd canolfannau Techniquest yn Llanberis, Prifysgol Glyndŵr a Pharc Oakwood. Mae Techniquest yn elusen addysgiadol sy'n delio gyda gwyddoniaeth, yn enwedig Ffiseg, Mathemateg a Seryddiaeth.
Dewch i’n horielau rhyngweithiol sy'n rhad ac am ddim. Dewch i weld sut y trawsffurfiodd Caerdydd o fod yn dref farchnad fechan yn y 1300au, un o borthladdoedd mwyaf y 1900au ac yna'r brifddinas cŵl, gosmopolitan ac amlddiwylliannol rydyn ni'n ei hadnabod heddiw. Mae'r amgueddfa, sydd wedi ei lleoli yn adeilad prydferth a hanesyddol yr Hen Lyfrgell yng nghalon y brifddinas yn fwrlwm o straeon, eitemau, ffotograffau a ffilm sy'n adrodd hanes Caerdydd trwy lygaid y rheiny a greodd y ddinas - ei phobl.
Cartref Clwb Pel-droed Dinas Caerdydd
Y Stadiwm Principality yw un o brif atyniadau Caerdydd ar Deyrnas Unedig i weld gemau a chyngherddau byd enwog. Cewch gyfle i gael taith o amgylch y Stadiwm. Cofiwch i gysylltu gyda staff yr Urdd os am archebu lle ar daith.
Castell Caerdydd yw un o brif atyniadau treftadaeth Cymru ac mae ganddo arwyddocâd rhyngwladol. Wedi ei leoli yng nghalon y ddinas, o fewn gerddi prydferth, mae waliau’r Castell a’r tyrrau tylwyth teg yn cuddio 2,000 o flynyddoedd o hanes.
Lle delfrydol i rafftio dŵr, canwio neu/a syrffio dan do.
Cewch ddarganfod celf, daeareg ac hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd - ac mae mynediad am ddim!
Beth am daith cwch hyfryd o gwmpas y bae, neu draw i Benarth? Gellir hefyd cael taith o’r Bae i’r stadiwm. Ffordd delfrydol i deithio i mewn i ganol dinas Caerdydd.
Un o’r canolfanau siopa mwyaf ym Mhrydain gyda pob siop o dan haul i gyd o dan do.
Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru. Saif ynghanol gerddi godidog Castell Sain Ffagan, y plasty hardd o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Datblygwyd Llwybr Arfordir Cymru gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru (sy'n ymgorffori Cyngor Cefn Gwlad Cymru gynt), 16 o awdurdodau lleol a dau Barc Cenedlaethol. Ewch am dro ar hyd y llwybr ger Bae Caerdydd.
Yn OC 75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.
Er mai ar sylfeni hynafol y saif Castell Coch mae'n gymharol fodern, yn gynnyrch dychymyg byw oes Fictoria a chyfoeth dirifedi. Beth am ymweld â chartref hardd, chwedlonol trydydd ardalydd Bute.
Lle gwych sydd reit gyferbyn i Wersyll yr Urdd, Caerdydd - yno cewch fowlio deg, gwylio ffilm neu gael llond bol o fwyd!
Dewis eang ac amrywiol o fwytau, caffis, bariau a siopiau – rhywbeth at ddant bawb wedi I leoli ar ein carreg ddrws.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru mae theatrau, amryw o fwytai a chaffis, siopau, adloniant am ddim ar Lwyfan y Lanfa, cyfle i fynd i wylio sioe neu mynd ar daith tu ôl i’r llen – lleoliad celfyddydol mwyaf cyffrous Ewrop.
Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain. Gyda chyfleusterau i addysgu a diddanu pobl o bob oedran, mae'r Pwll Mawr yn cynnig diwrnod cyffrous ac addysgiadol.
Gallwch fynd ar daith addysgiadol o amgylch y Senedd - cartref Llywodraeth Cymru.
Beth am gêm o fowlio 10?
Beth am fynd i sglefrio iâ yng nghartref y ‘Cardiff Devils’?
Wedi'i leoli yng nghanol Bae Caerdydd, mae Pwll Rhyngwladol Caerdydd yn gyfleuster modern sy'n cynnig pwll nofio Olympaidd 50m, pwll hamdden â sleidiau hwyl!
Cewch lot o sbort ar y tren tir- sy’n mynd o amgylch y Bae a draw at y morglawdd.
Sinema ym Mae Caerdydd sydd tafliad carreg o’r Gwersyll.
Beth am daith bws awyr agored o gwmpas y brifddinas – pa fford well o weld a chlywed holl hanes Caerdydd.
Beth am daith cwch cyffrous, llawn hwyl – gwibio o gwmpas y dŵr ym Mae Caerdydd.
Beth am fynd i wylio tîm hoci iâ Caerdydd mewn gêm gystadleuol a bywiog? Pris arbennig os yn aros yn y Gwersyll!
Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios diweddaraf a mwyaf blaenllaw’r BBC yng nghanol Caerdydd. Dewch ar daith arbennig y tu ôl i’r llenni gyda’n tywyswyr cyfeillgar i gael cipolwg ar ein stiwdios teledu a radio arloesol gan ddysgu am rai o’r cyfrinachau wrth gynhyrchu rhaglenni’r BBC.