Gwyliau 3 diwrnod yn y brifddinas dros Calan Gaeaf!
Wedi'i leoli ym Mae Caerdydd, mae Gwersyll yr Urdd Caerdydd yn le arbennig i ddod i weld y ddinas fel grŵp o ffrindiau, neu i gwrdd â phobl newydd.
Dros gyfnod o dri diwrnod byddwch yn mwynhau gweithgareddau amrywiol o amgylch y ddinas, yn ogystal â chwarae gemau a chyfle i fynd i siopa. Dyma enghraifft o amserlen o un o gyrsiau preswyl Gwersyll Caerdydd i roi syniad i chi.
Mae’r pris yn cynnwys gweithgareddau, tri pryd bwyd y dydd ac ystafelloedd en suite.
Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 7-9 / plant 11-14 oed.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
Dydd Llun 30 Hydref nes Dydd Mercher 1 Tachwedd 2023
Pa mor hir mae'n para?
3 diwrnod, 2 noson
Pris
£160 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Llety
Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 yn cysgu tri, 3 ystafell i grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, a dyma unig ganolfan yr Urdd sydd â system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!
Cyfleusterau
Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sydd â bwrdd pwl a pheiriannau bwyd a diod.
Bwyd
Rydym yn gweini brecwast, cinio a swper yn ein neuadd fwyta. Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion arbennig, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.
Nol