Ar gyfer pwy?

Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer oedrannau 8-11, neu blynyddoedd ysgol 4-6.

Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?

18-21 Gorffennaf / Awst 1-4ydd 2021

Pa mor hir mae'n para?

3 noson

A oes bws yn cael ei drefnu?

Yn anffodus oherwydd cymhlethdodau Covid nid oes bws yn cael ei drefnu eleni. Cyfrifoldeb rhieni yw cludo y plant i'r gwersyll

Pris

£180 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi arlein yma.

Gwyliwch am flas o wersyll haf yng Nglan-llyn.

 

 

Enghraifft o ddiwrnod

AmserlenGweithgaredd
Brecwast Dechrau'r dydd gyda llond bol o fwyd! I frecwast mae grawnfwydydd, tôst, ffrwyth, brecwast llawn - eich dewis chi
Bore Bore yn gwlychu ar y llyn yn canŵio a rhwyfyrddio
Cinio Cyfle i adennill egni ar gyfer gweithgareddau'r prynhawn!
Prynhawn Prynhawn ar y wal ddringo, ac i'r rhai mentrus, cyfle i fentro i'r entrychion ar y cwrs rhaffau uchel rhwng y coed!
Te Amser i ymlacio, sgwrsio a bwyta
Ar ôl te Gêm o rownderi ar y cae
Swper Digonedd o fwyd i'r anturiaethwyr bach llwglyd ar ôl diwrnod prysur
Ar ôl swper Rhostio malws melys ar y tân yn y tipi cyn dangos eich doniau dawnsio yn y disgo!

*Enghraifft yw'r amserlen hon. Caiff y rhaglen derfynol ei chynllunio yn nes at yr amser.

Llety

Ystafell wely “en-suite” sydd yn cysgu hyd at ddau, pedwar neu chwech.

Cyfleusterau

Mae cyfleusterau te a choffi ar gael drwy gydol y dydd, gyda lolfa bwrpasol ar gyfer bob bloc llety er mwyn ymlacio gyda’r nos. Mae cysylltiad i’r wi-fi ar gael ar draws y safle. 

Bwyd

Bydd brecwast, cinio, te a swper ar gael gan gynnig dewisiadau iachus a phrydau bwyd maethlon. Defnyddir cyflenwyr a chynnyrch lleol lle mae hynny’n bosib. Gallwn ddarparu ar gyfer anghenion dietegol, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.

Galeri