Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer oedrannau 8-11, neu blynyddoedd ysgol 4-6.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
27 Gorffennaf 2020
Pa mor hir mae'n para?
2 noson
Pris
£120 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi arlein yma.
Dyma wersyll haf yn arbennig ar gyfer plant sy'n gwirioni ar bob math o chwaraeon. Byddwch yn datblygu sgiliau aml-chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, rygbi, pêl-rwyd, criced, hoci a mwy, dan ofal hyfforddwyr profiadol Adran Chwaraeon yr Urdd.
Yn ystod gweddill yr amser bydd cyfle i fwynhau gweithgareddau’r gwersyll gan gynnwys ein gwifren wib, y ganolfan ddringo, sgïo, beiciau modur a mwy!
Gwyliwch am flas o wersyll haf yn Llangrannog!
Enghraifft o ddiwrnod
Amserlen | Gweithgaredd |
---|---|
Brecwast | Brecwast i bawb - bacwn, ffa pob, tôst, jam a mwy - eich dewis chi |
Bore | Bore o hyfforddiant hwyliog yn cynnwys dysgu sgiliau chwaraeon newydd, datblygu cydsymudedd, gemau adeiladu tîm a mwy! |
Cinio | Cyfle i adennill egni ar gyfer gweithgareddau'r prynhawn! |
Prynhawn | Prynhawn ar gefn y beiciau modur, trampolin, a'r ceffylau |
Te | Amser i ymlacio, sgwrsio a bwyta |
Ar ôl te | Ychydig o nofio |
Swper | Cinio rhost neu bolognese i'r anturiaethwyr llwglyd ar ôl diwrnod prysur |
Ar ôl swper | Cerdded i lawr i lan y môr Llangrannog am noson braf o hufen iâ a gemau ar y traeth |
*Enghraifft yw'r amserlen hon. Caiff y rhaglen derfynol ei chynllunio yn nes at yr amser.
Llety
Ystafelloedd en suite yn cysgu rhwng 6 i 8 o bobl.
Cyfleusterau
Gallwch ymlacio gyda diod poeth, cymdeithasu, neu wylio'r teledu yn un o’n naw lolfa sydd gerllaw eich ystafelloedd gwely. Mae cysylltiad wi-fi ar gael am ddim.
Bwyd
Mae’r holl fwyd yn cael ei baratoi gan gogyddion y gwersyll â'r pwyslais ar baratoi bwyd iachus. Defnyddir cynnyrch lleol a Chymreig lle bynnag y bo hynny’n bosibl a defnyddir cyflenwyr dibynadwy sydd yn darparu cynnyrch o'r ansawdd uchaf.
Galeri




























