Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7-9
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
14 Awst 2022
Pa mor hir mae'n para?
3 noson
Pris
£195 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-ein yma.
Manylion y cwrs
Cwrs unigryw sy’n cynnig profiadau gwerthfawr i bobl ifanc â diddordeb mewn creu, cyfansoddi neu berfformio.
Bydd cyfle i gyfansoddi a chreu cyn perfformio’r gwaith ar ddiwedd y cwrs. Cewch hefyd flas ar rhai o’r atyniadau celfyddydol sydd gan Gaerdydd i gynnig.
Llety
Byddwn yn trefnu'r ystafelloedd ar ddiwedd y diwrnod gyntaf. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!
Cyfleusterau
Byddwn yn defnyddio'r Neuadd i gynnal y rhan fwyaf o'r cwrs on hefyd yn neud y mwyaf o'n hystafelloedd dosbarth a'r hub wrth ymarfer ac ymlacio.
Bwyd
Bydd brecwast, cinio a swper yn ei weini'n ddyddiol, i gynnwys noson bitsa a swper allan.
Galeri












Bydd Gwersyll Caerdydd yn darparu rhaglen o gyrsiau dyddiol amrywiol i bob oedran. Cadwch olwg ar wefan y Gwersyll am fwy o fanylion.