Dyma gwrs newydd sbon sy'n cael ei arwain gan Boom Cymru. Bydd cyfle i ddysgu am greu deunydd digidol amrywiol, dysgu sut i olygu, recordio, gwneud podlediadau, a fideos gan un o'r cwmniau sy'n gyfrifol am greu deunydd ar gyfer sianel Hansh i S4C.
Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer oedrannau 8-11, neu blynyddoedd ysgol 4-6.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
27 Gorffennaf 2020
Pa mor hir mae'n para?
4 noson
Pris
£250 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi arlein yma.
Llety
Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 yn cysgu tri, 3 ystafell i grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, a dyma unig ganolfan yr Urdd sydd â system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!
Cyfleusterau
Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sydd â bwrdd pwl a pheiriannau bwyd a diod.
Bwyd
Rydym yn gweini brecwast, cinio a swper yn ein neuadd fwyta. Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion arbennig, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.
Galeri









