Dau noson o wersylla a 3 ddiwrnod llawn hwyl!
Cwych cyflym ~ Nofio ~ Sinema ~ Sglefrio Iâ ~ y Stadiwm a llawer mwy.....
Ar gyfer pwy?
Mae hwn yn wersyll haf sy'n addas ar gyfer blynyddoedd ysgol 4-6.
Pryd mae'r gwersyll haf yn dechrau?
30 Awst 2022
Pa mor hir mae'n para?
2 noson
Pris
£150 ar gyfer aelodau'r Urdd. Os nad ydych yn aelod eto, gallwch ymaelodi ar-lein yma.
Dyddiad cau cofrestru
11/08/2022
Os hoffech ymholi am le ar y cwrs ar ôl y dyddiad cau ebostiwch caerdydd@urdd.org
Llety
Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely ar gael. Mae gennym 3 ystafell sy’n cysgu dau, 1 yn cysgu tri, 3 ystafell i grwpiau o bedwar a 22 ystafell ar gyfer grwpiau o chwech. Mae ystafell ymolchi ymhob ystafell, a dyma unig ganolfan yr Urdd sydd â system clo ar gerdyn electronig ar gyfer pob ystafell!
Cyfleusterau
Mae digon o le i ymlacio yn y lolfa sydd â bwrdd pwl a pheiriannau bwyd a diod.
Bwyd
Rydym yn gweini brecwast, cinio a swper yn ein neuadd fwyta. Gallwn ddarparu bwyd ar gyfer anghenion arbennig, alergeddau, cefndir diwylliannol a chredoau crefyddol.
Nol