Cwestiynnau all godi ...
Os oes angen unrhyw wybodaeth pellach peidiwch oedi rhag cysylltu.
Beth yw'r budd addysgiadol o drefnu trip i Langrannog?
Budd Addysgiadol...
Ers 1932 mae Gwersyll yr Urdd Llangrannog yn gweithredu ar yr ethos o Ddysgu Trwy Weithgaredd, a chredwn yn gryf fod yr wythnos yma wedi profi yn effeithiol wrth gynorthwyo â datblygiad a hunan hyder unigolyn. Yn wir nid oes gwell ystafell ddosbarth na Gwersyll Llangrannog! Rydym yn manteisio yn llawn ar ein hamgylchedd a’n hanes diwylliannol i greu ystod eang o gyrsiau. Mae awyrgylch unigryw Gymreig y Gwersyll yn gwneud e’n lleoliad delfrydol ar gyfer cyrsiau iaith, a dyma yn bennaf pam mae 96% o ysgolion yn gweld gwelliant yn agwedd eu disgyblion tuag at yr iaith a diwylliant wedi ymweld. Mae dwyieithrwydd yn rhan allweddol o’r Gwersyll ac yn cael ei cyflwyno fel rhan o gefndir cyrsiau ehangach boed yn gyrsiau Hwyl, Daearyddiaeth, Llen, Llun neu Hanes.
Mae’r Gwersyll wedi cyhoeddi ein Datganiad y Cwricwlwm, hyderwn y bydd y ddogfen yn amlinellu gwerth ymweliad a Gwersyll yr Urdd Llangrannog fel rhan bwysig o’r broses dysgu, ac yn hynny o beth yn rhoi hyder a chefnogaeth i’r athrawon hynny sy’n awyddus i wneud defnydd helaethach o ddysgu ‘y tu allan i’r ystafell Ddosbarth’.
Pa Systemau Iechyd a Diogewlch sydd mewn lle?
Er bod y rhan helaeth o athrawon yn cydnabod fod cyrsiau preswyl yn cynnig profiadau amhrisiadwy i blant ac ieuenctid, ac yn rhan pwysig o’u datblygiad personol, deallwn fod nifer fawr yn bryderus am drefnu’r fath dripiau yn yr hinsawdd gymdeithasol presennol. Rydym yng Ngwersyll Llangrannog yn deall y pryderon yma ac wedi gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau pob cefnogaeth i ysgolion trwy gydol y broses. Rydym yn ymfalchïo yn ein record Iechyd a Diogelwch, a chredwn dyma un o’r rhesymau y mae 85% o’n hymwelwyr yn dychwelyd i aros yn y Gwersyll. Mae strwythurau pendant eisoes mewn lle sydd yn sicrhau diogelwch plant ac athrawon/oedolion yn ystod eu harhosiad. Isod ceir amlinelliad o’n systemau diogelwch.
- System camerâu diogelwch, Atalfa Ddiogelwch a Gwylwyr Nos
- BCT - Mae pob aelod o staff wedi mynd trwy broses Biwro Cofnodion Troseddol (Archwiliad manwl)
- Staff cymwysedig. Mae’r Gwersyll wedi derbyn statws ‘Buddsoddwyr mewn Pobl’
- Diogelwch Tân -Cynhelir Dril tân cyn gynted a phosib wedi i’r plant cyrraedd y Gwersyll. Darparir ystafelloedd â Larwm Dan Weledol i bobl a nam clyw
- Cymorth Cyntaf - Swyddogion Cymorth Cyntaf llawn ar alwad 24 awr y dydd
- Ystafell Cymorth Cyntaf pwrpasol â man cadw meddyginiaeth o dan glo
- Ffurflenni Iechyd – Cyfle i rieni ddatgelu unrhyw broblem / anghenion arbennig (Gweler Ffurflen amgaeedig)
- Systemau pwrpasol mewn lle ar gyfer alergeddau. Darparir bwydlen ar gyfer pob angen dietegol
- Asesiadau Risg ar gyfer pob gweithgaredd + Holiadur Darparwyr Annibynnol
- Swyddog NEBOSH llawn amser sydd yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch
Pa rhaglen gweithgareddau allwn ni ddisgwyl?
Rhan amlaf cynnigwn cyrsiau 2 noson, 4 noson neu phenwythnos.
Wedi dewis dyddiadau, gyda chymorth ein cydlynnydd cyrsiau mi allwch fynd ati i drefnu eich cwrs i sicrhau eich bod yn ateb eich gofynnion eich cynlluniau dysgu. . Mi fydd rhaglen yn cael ei chreu o 9.00yb tan 10.00yh
Mae yna lu o weithgareddau i ddewis ohonynt wedi eu staffio gan aelodau o staff profiadol a chymwysiedig. Mae hefyd modd trefnu mewn partneriaeth a cwmniau lleoli i wneud gweithgareddau afon a mor megis, canwio, syrffio, cerdded afon (am gost ychwanegol).
Pan nad yw'r tywydd yn ffafriol mae gweithgareddau dan do gennym i gadw pawb yn glud, er mae nifer o'r gweithgareddau hyd yn oed yn well yn y glaw!
Mae pob weithgaredd yn gallu cael ei haddasu i anghenion arbennig.
Gyda'r nos bydd rhaglen o weothgareddau amrywiol i'w mwynhau, a staff ar gael i gynorthwyo.
Dyma enghraifft o rhaglen wythnos ar gyfer ysgol 250 o blant sydd yn ymweld ...
Pa fath o gyfleusterau sydd ar gael?
LLety... Mae cyfleusterau'r Gwersyll gyda'r gorau o fewn byd canolfannau preswyl gyda graddfa o 4 seren gan Croeso Cymru, a'r rhan helaeth o'r ystafelloedd cysgu yn rhai ensuite.
Mae cyfleusterau gwneud te a choffi ar gael trwy gydol y dydd, lolfeydd ymlacio gyda theledu ynghyd a defnydd o gyfrifiadur a gwasanaeth diwifr. Mae cyfleusterau golchi a sychu dillad ar gael.
Cegin a Bwyd ... Darperir prydau blasus a iachus a gellir darparu bwydlen ar gyfer pob angen dietegol.
Cyfleusterau addysgol ... Cynigir adnoddau addysgol amrywiol o Ganolfan Addysg a threftadaeth, ystafelloedd dosbarth i gyrsiau parod. Gellir hefyd trefnu siaradwyr gwadd a thripiau i fannau lleol o ddiddordeb.
Sut allwch chi helpu?
Rydym yma i'ch gynorthwyo ymhob cam o'r broses!
Dyma ambell i beth y gallwn gwneud i'ch helpu ...
- trefnu trafnydiaeth ar eich rhan
- eich cynorthwyoi hyrwyddo'r cwrs i rieni boed trwy ymweliad i'r ysgol, taflenni gwybodaeth neu templed o lythyr
- anfon cardiau casglu arian i'r ysgol
- anfon ffurfflenni gwybodaeth defnyddiol i rhieni
Os hoffech unrhyw gymorth o gwbwl plis peidiwch oedi rhag cysylltu.