Cwestiynnau all godi ...
Os oes gennych gwestiwn arall peidiwch oedi rhag cysylltu a ni.
Beth sydd angen ar fy mhlentyn?
- Sach gysgu
- Dillad nos a phethau ymolchi.
- Dillad sbâr - nid y ‘dillad gorau’.
- Siwmper gynnes ac anorac neu got law.
- Dillad chwaraeon, dillad nofio a thywel.
- Pâr o ‘drainers’ neu esgidiau addas i gerdded a hen bâr o esgidiau neu ‘Wellingtons’ i fynd ar y ceffylau a’r beiciau modur.
- Dillad addas ar gyfer sgïo a gwibgartio h.y. hen fenyg ac hen dracsiwt neu jeans.
- Llyfr nodiadau a phensil/biro (cyrsiau yn unig).
- HEN DDILLAD AR GYFER Y CWRS ANTUR MWDLYD (Ebrill - Hydref). Dylid anfon hen ddillad y gellir cael yn fwdlyd neu hyd yn oed eu taflu ar ôl y gweithgaredd neu ar ôl cyrraedd adref gan fod y cwrs yn fwdlyd dros ben – ond yn HWYL. Darperir cwdyn/bag i gario’r dillad brwnt/budr ar ôl y gweithgaredd
PWYSIG
Cofiwch anfon y Tystysgrif iechyd gyda’ch plentyn – gyda manylion unrhyw afiechyd, salwch, alergeddau anghenion arno, ynghyd a rhif ffon a enw cyswllt.
Rhowch enw ar BOB DILLEDYN (yn enwedig dillad nofio). Mae’n syndod faint sydd yn cael eu gadael!
A oes rhwybeth ni ddylwn eu pacio?
Gofynnwn i chi ofyn i’ch plentyn beidio dod a’r canlynol i’r Gwersyll: Radio, chwaraeydd cerddoriaeth (e.e. iPod), gemau fideo, teganau drud, fflach lamp, ffôn symudol (does dim derbyniad i gael yn yr ardal), ac oherwydd rheolau Iechyd a Diogelwch, cyllell boced, chwistrellau aerosol (defnyddiwch diaroglydd rholio), peiriannau trydanol symudol e.e. sychwyr gwallt, tongs gwallt, haearn smwddio. Os digwydd i blant ddod â’r eiddo personol uchod i’r Gwersyll rydym yn eu casglu a’u cadw’n ddiogel tan y bore olaf.
Ar y llaw arall, mae croeso i’r plant adael eiddo fel camerâu, oriawr ac ati yn ein gofal ni a’u defnyddio fel y bo angen. Rhown label ac enw ar bopeth.
NI FYDDWN YN GYFRIFOL AM DDIOGELWCH NEU UNRHYW DDIFROD I’R EIDDO UCHOD OS DAW PLANT Â HWY I’R GANOLFAN.
All fy mhlentyn ffonio adre?
Rydym yn annog plant i beidio ffonio adre, yn enwedig ar ddechrau cwrs. Oni bai y clywch oddi wrthym fe fyddwch yn gwybod bod eich plentyn yn iach ac yn mwynhau.
Gallwn eich sicrhau os y bydd angen cysylltu â’r rhieni (e.e. salwch neu hiraeth drwg) fe fyddwn yn gwneud hynny’n syth. Os byddwch am anfon neges at eich plentyn gallwch wneud hynny a chroeso trwy Dderbynfa’r Gwersyll (01239 652140) neu ebost (Llangrannog@urdd.org). Mi fydd y Cyfarwyddwr yn hapus iawn i drosglwyddo’ch neges.
Beth sy’n digwydd os oes problem gyda’m mhlentyn
Mae yna rywun ar gael trwy gydol yr amser, ddydd a nos. Ar gyfartaledd mae 1 staff i bob 6/8 plentyn. Mae gwyliwr nos ar ddyletswydd trwy’r nos.
Ble fydd fy mhlentyn yn cysgu?
Yn syth wedi cyrraedd y Gwersyll, mi fyddwn yn dangos y plant i’w ystafelloedd. Athrawon fydd yn gyfrifol am lleoli disgyblion, er mwyn sicrhau rhediad esmwyth y cwrs. Mae ystafelloedd athrawon/arweinyddion gerllaw ystafelloedd y plant ac rydym yn sicrhau fod pob plentyn yn gwybod ble i fynd os oes angen cymorth yn ystod y nos. Mae ystafelloedd fel arfer yn cysgu rhwng 4 ac 8 plentyn.
Beth yw eich systemau diogelwch?
Iechyd a Diogelwch
Rydym yn ymfalchïo yn ein record Iechyd a Diogelwch, a chredwn mai dyma un o’r rhesymau y mae 84% o’n hymwelwyr yn dychwelyd i aros yn y Gwersyll dro ar ôl tro. Mae strwythurau pendant eisoes mewn lle sydd yn sicrhau diogelwch plant, athrawon ac oedolion yn ystod eu harhosiad.
Isod ceir amlinelliad o’n systemau diogelwch
- 3 Atalfa Ddiogelwch a system CCTV
- Gwylwyr Nos
- BCT - Mae pob aelod o staff wedi mynd trwy broses Biwro Cofnodion Troseddol (Archwiliad manwl)
- Staff cymwysedig ar y gweithgareddau. Mae’r Gwersyll wedi derbyn statws ‘Buddsoddwyr Mewn Pobl’ a hefyd wedi ennill ‘Cyflogwr y Flwyddyn’ yng ngwobrau Cwlwm Busnes Ceredigion
- Diogelwch Tân. Cynhelir dril tân cyn gynted â phosib wedi i’r plant gyrraedd y Gwersyll. Darperir ystafelloedd â larwm dân weledol i bobl â nam clyw
- Cymorth Cyntaf - Swyddogion Cymorth Cyntaf llawn ar alwad 24 awr y dydd
- Ystafell Cymorth Cyntaf pwrpasol a man cadw meddyginiaeth o dan glo
- Ffurflenni Iechyd – Cyfle i rieni ddatgelu unrhyw broblem / anghenion arbennig (gweler y ffurflen amgaeedig)
- Systemau pwrpasol mewn lle ar gyfer alergeddau bwyd. Darperir bwydlen ar gyfer pob angen dietegol
- Asesiadau Risg ar gyfer pob gweithgaredd
- Swyddog NEBOSH llawn amser sydd yn gyfrifol am Iechyd a Diogelwch
Beth sydd i'w fwyta yn Llangrannog?
Bwyta yn Llangrannog
Mae amseroedd bwyd yn uchafbwynt i nifer, yn enwedig y te traddodiadol Cymreig! Mae yna ddigonedd o amrywiaeth gydag opsiynau i lysieuwyr ynghyd ag unrhyw angen dietegol arall. Er hyn deallwn gall prydau bwyd peri gofid i nifer o ddarpar wersyllwyr a rhieni, a cheisiwn gwneud popeth o fewn ein gallu i dawelu eich ofnau. Os hoffech dderbyn copi o'r fwydlen neu gael sgwrs am ddarpariaeth y gegin peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Rhiannon ar 01239 652 148 neu rhiannon@urdd.org.
Os oes gan eich plentyn anghenion dietegol arbennig e.e. alergedd i gnau, diet di-glwten, diabetig, dim cynnyrch llaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni i drafod ymhellach a chofiwch nodi hyn ar y Ffurflen Iechyd.
Mae dwr a diod oren ar gael trwy gydol y dydd yn rhad ac am ddim.
Dyfarnwyd sgôr o 5 i’r Gwersyll o dan Gynllun Sgorio Hylendid Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.