Mae’r Urdd wedi cyhoeddi cynlluniau cyffrous i drawsnewid Pentre Ifan, un o ganolfannau’r Urdd. Pentre Ifan fydd gwersyll amgylcheddol cyntaf yr Urdd
Ein bwriad dros 2022 yw sefydlu Pentre Ifan fel Gwersyll Amgylcheddol yr Urdd.
Bydd Pentre Ifan yn ddihangfa ddigidol ac yn annog pobl ifanc i gysylltu a’u tirlun amgylcheddol a diwylliannol a phrofi ffordd o fyw mwy cynaliadwy. Bydd yn llecyn diogeli bobl ifanc rannu profiadau, datblygu ymddiriedaeth a pherthnasoedd, datblygu gwytnwch, lles ac i ymarfer meddylgarwch.
O’r ’Pridd i’r Plât’ - bydd pobl ifanc yn tyfu ac yn cynhaeafu eu bwyd o’r ardd-gegin, y cychod gwenyn a’r safle, yn coginio ac yn bwyta gyda’i gilydd yn y gegin allanol ‘ynni gwyrdd’.
Y bwriad yw annog cenhedlaeth newydd o blant a phobl ifanc i ddod i adnabod eu treftadaeth amgylcheddol a diwylliannol, a’u hysbrydoli i’w cynnal a’u gwarchod.
Mae’r cynllun, fydd yn costio bron i £1miliwn yn cynnwys adnewyddu’r neuadd bresennol a thrawsnewid y pedwar adeilad arall sydd ar y safle yn lety o safon.