Gwyliau Tŷ Bync ym Mhentre Ifan
Dewch am wyliau gwahanol yma yng nghalon Sir Benfro…
Dyma gyfle gwych i griw o ffrindiau a theuluoedd i wersylla o dan y ser neu i gysgu yn ein tŷ bync pwrpasol!
Mae’r cynnig arbennig hon ar gael i deuluoedd i dreulio amser yng Nghanolfan yr Urdd Pentre Ifan. Mae’n ganolfan sydd yn dra gwahanol i’r canolfannau Urdd eraill!
Hen borthdy Tuduraidd yw’r adeilad, yn dyddio yn wreiddiol o 1485 wedi'i leoli ym Mharc Cenedlaethol Penfro rhwng Abergwaun ac Aberteifi, dim ond 2 filltir o bentref Cwm yr Eglwys a thref fechan Trefdraeth.
Gerllaw mae siambr gladdu Pentre Ifan, a cheir golygfeydd syfrdanol wrth gerdded mynyddoedd y Preseli a llwybrau’r arfordir. Yn Nhrefdraeth cewch nifer o fwytai a siopau hyfryd a thraethau arbennig!
Beth am ddod a’ch beic i seiclo, neu ymweld â thraeth hynod Parrog? Mae'r ardal yn nodweddiadol am ei golygfeydd godidog, olion hanesyddol a bywyd gwyllt unigryw. Mae amrywiaeth o brofiadau newydd yn eich disgwyl, felly dewch draw i’r ardal hyfryd hon i roi cynnig arnynt!
Mae’r tŷ bync wedi ei rannu i dair ystafell cysgu (1x8, 1x6, 1x2), gyda gwelyau bync ym mhob ystafell. Neu dewch a’ch pebyll eich hunain i wersylla o dan y sêr.
Mae’r prisiau a ddyfynnir isod yn cynnwys defnydd unigryw o’r adeilad gan gynnwys y neuadd a’r gegin sydd uwchben yr ystafelloedd gwely. Mae hwn yn wyliau hunangynhaliol, ond mae yno ddewis eang o fwytai ardderchog yn y trefi a'r pentrefi cyfagos sydd at ddant bawb!
Prisiau: Llun-Gwener: £800 | Gwener-Sul: £500
Dyddiadau amrywiol ar gael yn ystod Gwyliau’r Haf - cysylltwch i drefnu!
Ffoniwch ni ar 01239 652140 neu e-bostiwch pentreifan@urdd.org