Mae Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sy’n un o wyliau teithiol ieuenctid mwyaf Ewrop, yn dod i Sir Ddinbych yn ystod hanner tymor mis Mai 2022.

 

Awydd cymryd rhan mewn cystadlaethau yn yr adran gyfansoddi?

 

Mae digonedd o ddewis felly dewch i ymuno yn yr hwyl.

Oes rhaid imi fod yn aelod o'r Urdd er mwyn cystadlu yn yr adran Gyfansoddi?

Oes. Mae'n rhaid i unrhyw berson sy'n dymuno cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd i ymaelodi gyda'r Urdd. 

Cliciwch yma i ddysgu mwy.

Ym mhle ga’i weld rhestr o’r cystadlaethau? (Rhestr Testunau)

Mae copi o Restr Testunau Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022 ar gael i'w lawrlwytho yma.

Dwi’n byw tu allan i Gymru. Ydw i’n cael cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd?

Wyt. Bydd angen anfon eich gwaith i Swyddfa'r Eisteddfod yng Nglan-Llyn erbyn Mawrth 1 2022.

Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau Cyfansoddi?

Mawrth 1af 2022.

 

Ga’i adborth ar ôl cystadlu?

Bydd beirniadaeth gyffredinol ar gyfer pob cystadleuaeth yn yr adran gyfansoddi ar gael yng Nghyfansoddiadau'r Eisteddfod.

Bydd y gyfrol hon ar gael i'w phrynu ar ddiwedd wythnos yr Eisteddfod.

Oes posibl derbyn fy ngwaith Cyfansoddi yn ôl yn dilyn yr Eisteddfod Genedlaethol?

Cysylltwch gyda Swyddfa’r Eisteddfod drwy e-bostio eisteddfod@urdd.org i ofyn am eich gwaith yn ôl.

17/6/2022 fydd y diwrnod olaf am geisiadau i dderbyn eich gwaith cyfansoddi.