Oherwydd cyfyngiadau COVID, mae Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth Eisteddfod yr Urdd 2022 yn mynd i edrych ychydig yn wahanol.
Y pethau pwysig i’w cofio yw:
- Rhaid bod yn aelod i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2022
- Byddwn yn cynnal Eisteddfodau Cylch a Rhanbarth heb gynulleidfa.
- Bydd pob cystadleuydd yn derbyn dyddiad, lleoliad ac amser cystadlu.
- Bydd un rhiant/person â gofal, neu hyfforddwr yn cael mynychu gyda phob cystadleuydd.
- Mewn cystadlaethau hunan-ddewisiad, bydd cyfeilydd yn cael mynychu hefyd.
- Dim ond un waith bydd angen perfformio. Bydd y beirniad yn penderfynu ar y canlyniad ar ôl gwylio’r holl gystadleuwyr.
- Byddwn yn cyhoeddi canlyniadau’r Eisteddfodau Cylch / Rhanbarth ar ddiwedd y diwrnod cystadlu.
- Mae croeso i’r rhiant/person â gofal recordio eu plentyn mewn cystadleuaeth unigol.
- Mae cystadlaethau 19-25 oed yn mynd yn syth i’r Genedlaethol am y tro cyntaf eleni. Mae rhestr llawn o’r cystadlaethau sy’n mynd yn syth i’r Genedlaethol ar dudalen 75 y Rhestr Testunau.