Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolyn sydd:
- wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg
- yn ymfalchïo yn ei G/Chymreictod
- yn gallu cynnal sgwrs yn y Gymraeg
Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw ddysgwr rhwng 19 - 25 oed, sydd yn aelod o’r Urdd. Ceir diffiniad o ‘ddysgwr’ yn Rheolau Cyffredinol y Dysgwyr, tudalen 8 y Rhestr Testunau. Mae croeso i unigolyn sydd wedi dod at y Gymraeg trwy system trochi gystadlu, ond eu bod wedi bod mewn addysg Gymraeg am lai na phedair blynedd.
Sut i gystadlu?
Bydd gofyn i bob cystadleuydd ateb y cwestiynau isod ar glip fideo (dim hwy na 2 funud) ac yn ysgrifenedig ar y ffurflen gais a geir ar wefan yr urdd / trwy e-bostio eisteddfod@urdd.org
1. Brawddeg yn cyflwyno dy hun
2. Oes rhywun yn y teulu yn siarad Cymraeg?
3. Beth yw dy resymau dros ddysgu’r Gymraeg?
4. Sut y dysgaist ti’r Gymraeg?
5. Beth yw effaith dysgu’r Gymraeg ar dy fywyd, a sut wyt ti’n defnyddio’r Gymraeg?
6. Beth yw dy obeithion ar gyfer y dyfodol.
Beth nesaf?
Dylid anfon y ffurflen gais a’r clip fideo at Adran yr Eisteddfod drwy ebostio cyfansoddi@urdd.org cyn 27 Ebrill. Cynhelir rownd gynderfynol a therfynol yn llawn tasgau amrywiol ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Mawrth, 31 Mai.
Beirniaid - Nerys Ann Roberts a Geraint Wilson Price