Cystadleuaeth Llaeth y Llan 

Llaethdy Cymreig teuluol yw Llaeth y Llan sy'n gwneud iogwrt blasus o Ogledd Cymru. 

I ddathlu canmlwyddiant yr Eisteddfod yn 2022, maen nhw’n cynnig cyfle gwych i bob plentyn ddylunio eu pecynnau newydd.

Bydd pob enillydd yn ennill gwobr anhygoel... argraffu eu dyluniad ar botiau Iogwrt Llaeth y Llan am flwyddyn gyfan, yn ogystal â thaith teulu i laethdy’r pentref i weld sut mae iogwrt yn cael ei wneud!


Rheolau'r Gystadleuaeth

Dyluniadau i'w tynnu â llaw gan ddefnyddio beiros, pensiliau neu greonau a'u dylunio gan ddefnyddio'r templedi a ddarperir (gweler lincs isod)

i) Gwahoddir plant iau (grŵp oedran 4 -8 ) i ddylunio ein caead pot Iogwrt
Gellir dylunio hwn gan ddefnyddio du, gwyn a 4 lliw a ddewiswyd.
Mae'r lliwiau ychydig yn gyfyngedig gan ein bod yn argraffu'r caeadau mewn 6 lliw (gan gynnwys du a gwyn).

ii) Plant hŷn (grŵp oedran 9-12) yn cael y cyfle i ddylunio llawes mewnol y pot iogwrt.
Gellir dylunio hwn gan ddefnyddio pob lliw.
Er mwyn efelychu hyn, bydd y dyluniad buddugol yn cael ei addasu i lun mewn dyluniad du a gwyn er mwyn annog ein cwsmeriaid i liwio'r llun! 

Thema dylunio yw “Môr a Mynydd”
Gellir dynnu lluniau neu sganio dyluniadau, a'u huwchlwytho i competitions@villagedairy.co.uk
neu ei anfon drwy'r post at :

“Cystadleuaeth Gelf Eisteddfod yr Urdd”
Llaeth Y Llan
Llannefydd
Dinbych
LL16 5DR

Sicrhewch fod gan eich dyluniad enw, oedran a manylion cyswllt y plentyn.

Telerau ac Amodau
Pob cais i'w gyflwyno erbyn Ebrill 22ain.
Bydd enillwyr lwcus yn cael eu cyhoeddi yng nghanmlwyddiant yr Eisteddfod yn Ninbych ym mis Mai.

 

Llawes mewnol y pot iogwrt.

Cliciwch yma i lawrlwytho dyluniad llawes mewnol y pot iogwrt (cystadleuwyr rhwng 9 a 12 oed) 

 

Lawrlwytho llawes mewnol

Caead Iogwrt

Cliwciwch yma i lawrlwytho dyluniad caead pot iogwrt (cystadleuwyr rhwng 4-8 oed)

Lawrlwytho caead pot iogwrt