Anfon Gwaith Cyfansoddi a Chreu

Sut mae anfon cynnyrch cystadlaethau Cyfansoddi a Chreu yr Urdd?

1. Mae holl gynnyrch cystadlaethau Cyfansoddi a Chreu yr Eisteddfod yn cael eu beirniadu ar lefel genedlaethol.  Oni nodir yn wahanol, gwaith ar gyfer unigolion yw’r gwaith cyfansoddi. Rhaid i holl gynhyrchion y cystadlaethau Cyfansoddi a Chreu gyrraedd Swyddfa’r Urdd, Glan-llyn erbyn 1 Mawrth, 2020.

2. Gellir cystadlu naill ai drwy anfon y cyfan trwy’r post neu drwy e-bost.

a)  Trwy’r post: 
-Ni ddylai ymgeiswyr, ar unrhyw gyfrif, roi eu henwau priodol ar eu gwaith.
-Nodwch rif y gystadleuaeth, ffugenw a rhif aelodaeth yn eglur ar gornel uchaf llaw dde’r papur/y gwaith.
-Mewn amlen o faint cyffredin (tua 6” x 4”), rhowch ddarn o bapur gyda'r wybodaeth yma arno:
(i) rhif y gystadleuaeth (ii)  y ffugenw (iii) rhif aelodaeth yr ymgeisydd (iv) enw priodol yr ymgeisydd (v) enw ei A/Hadran neu ei A/Haelwyd;  (vi) enw ei G/Chylch;  (vii) enw ei Sir/Rhanbarth;  (viii) ei dd/dyddiad geni.  -Y tu allan i'r amlen, ysgrifennwch rif y gystadleuaeth, y ffugenw a’r rhif aelodaeth yn unig.


-Anfonwch eich gwaith at: Trefnwyr, Adran yr Eisteddfod, Gwersyll yr Urdd, Glan-llyn, Llanuwchllyn, Y Bala, Gwynedd LL23 7ST.

Dyma enghraifft:

Pennawd y cynnyrch a thu allan i'r amlen:

Rhif 201
Seren Arian
(13,452)                                                                                                 

Y tu mewn i'r amlen 'dan sêl:

Rhif 201
Seren Arian
(13,452)
Sion Owain
Aelwyd Aberystwyth
Cylch Aberystwyth
Ceredigion
24/11/99

b) Trwy e-bost:
-Anfonwch ddau atodiad; un gyda’r gwaith llenyddol a’r llall gyda’r wybodaeth ‘amlen dan sêl’ (gweler uchod).
-Dylid enwi’r atodiad cyntaf sy’n cynnwys y gwaith llenyddol drwy nodi rhif y gystadleuaeth a’r ffugenw.
-Dylid enwi’r ail atodiad (sy'n cynnwys yr holl wybodaeth amlen dan sêl - gweler uchod) drwy nodi rhif y gystadleuaeth, y ffugenw, a’r llythrennau ADS, e.e.

Atodiad 1 [gwaith llenyddol] – 201 Seren Arian

Atodiad 2 [yr amlen dan sêl] – 201 Seren Arian ADS
-Dylid anfon y gwaith at y cyfeiriad e-bost canlynol cyfansoddi@urdd.org
-Peidiwch ag anfon y gwaith at unrhyw gyfeiriad e-bost arall.  Bydd adran yr Eisteddfod yn cadarnhau derbyn yr e-bost.

-Dylid cynnwys cyfeiriad cartref, e-bost a rhif ffôn yn achos y prif gystadlaethau sef 349, 379, 395, 415.

3. Rhaid i aelodau o un Adran neu Aelwyd anfon eu cynhyrchion gyda’i gilydd trwy eu hysgrifennydd, a rhaid i’r ysgrifennydd gadarnhau dilysrwydd gwaith yr ymgeiswyr. Dylid labelu’r parsel neu’r pecyn ‘Llenyddiaeth’ fel y bo’n briodol. 

4. Cymeradwyir cofrestru cynhyrchion a anfonir trwy’r post. Cymerir pob gofal o’r cynhyrchion ond ni fydd yr Urdd yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod anorfod a all ddigwydd i’r cynhyrchion.

5. Bydd gan yr Urdd hawl i gyhoeddi pob un neu rai o’r cyfansoddiadau cerddorol a llenyddol a ddyfernir yn fuddugol ac i’w defnyddio at ddibenion yr Urdd yn y dyfodol, a hynny heb geisio caniatâd yr awduron na thalu unrhyw freindal na thaliad arall.

6. Caniateir i ennill y Gadair, y Goron, y Fedal Ddrama, Medal y Dysgwr, Y Fedal Gyfansoddi hyd at deirgwaith.

7. Anogir cystadleuwyr i gyflwyno gwaith ar ddisg neu drwy e-bost.

8. Rhaid i’r gwaith a gyflwynir fod yn waith gwreiddiol yr awdur.

9. Rhaid i’r gwaith llenyddol fod yn waith heb ei gyhoeddi o’r blaen mewn unrhyw ffordd. Ni chaniateir i’r gwaith, na rhannau ohono fod yn waith sydd wedi cael ei gopïo oddi wrth unrhyw un arall.

10. Mae’r Urdd yn cadw’r hawl i olygu unrhyw waith sydd yn cael ei farnu yn addas i’w gyhoeddi yn y Cyfansoddiadau. Sylwer hefyd Rheol 29 yn y Rheolau Cyffredinol.