Sut ydw i’n archebu tocyn i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023?

Mae'r tocynnau ar gael yma

Ydw i’n gallu cael tocyn am ddim?

Mae manylion yma am docynnau am ddim 

Faint yw’r tocynnau?

Mae prisiau’r tocynnau i’w gweld yma

 

 

Ydy prisiau'r tocynnau am newid?

Bydd y prisiau yn cynyddu ar y 29 o Fai, cipia docyn cyw cynnar cyn hynny!

 Ydw i’n gallu prynu tocyn ar y drws?

Wyt, ond bydd y prisiau yn cynyddu ar y 29 o Fai!

Ydw i’n cael dod â fy nghi i'r Maes?

Na, dim ond cŵn tywys sy’n cael bod ar y Maes.

 

 

Sut ydw i’n cyrraedd y Maes?

Dyma dudalen defnyddiol i ti yma!

Ydw i’n cael dod a alcohol i’r Maes?

Nac wyt, ond bydd bar ar y Maes ddydd Gwener a Sadwrn ar gyfer Gŵyl Triban.

Dwi’n ofalwr, ydw i’n cael tocyn am ddim?

Wyt, gofynna yn y swyddfa docynnau am dy docyn gofalwr.

 

Ydw i angen printio fy nhocyn?

Nac wyt, rydym yn annog i chi ddefnyddio eich tocyn ar eich ffôn.

Ydw i angen talu am barcio yn yr Eisteddfod?

Nac wyt, mae meysydd parcio yr Eisteddfod am ddim.

Faint o'r gloch mae'r Maes yn agor pob dydd?

Bydd y Maes yn agor am 7yb rhwng y 29 o Fai a'r 3ydd o Fehefin.

Pryd ydw i'n derbyn fy nhocyn?

Bydd y tocynnau yn cael eu hanfon allan dros ebost yn yr wythnos cyn yr Eisteddfod

Dwi angen dod ag offer trwm i'r Maes, sut ydw i'n gwneud hyn?

Bydd angen i ti lenwi'r ffurflen yma.

Sut ydw i'n gweld amserlen y Maes?

Bydd modd i ti weld amserlen holl gystadlaethau a gweithgareddau y Maes ar ein ap.

Bydd yr ap allan yn fuan!

Pa gyfleusterau i bobl ag anabledd sydd ar y Maes?

Mae cyfleusterau yn cynnwys:

- Maes parcio Bathodyn Glas ger y Ganolfan Groeso
- Toiledau anabl
- Cyfleusterau newid ger y Ganolfan Groeso a chyferbyn yr Adlen

Mae hefyd llwybrau metal ('trackways') ar hyd y Maes sy'n arwain at stondinau a'r Pafiliynau. Oherwydd cyfyngiadau'r lleoliad a'r ffaith ei fod yn cymryd lle ar gae fferm, does dim llwybrau yn arwain at rhai stondinau.

Os oes unrhyw beth yn codi a hoffech gymorth, gofynnwch i aelod o staff yr Urdd (mewn cortyn gwddf coch) neu aelod o'r tîm diogelwch (mewn festiau 'hi-vis' gwyrdd).