Sut i gyrraedd Maes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 yn nhref farchnad Llanymddyfri.
Dilynwch yr arwyddion swyddogol er mwyn cyrraedd y meysydd parcio. Mae’n allweddol bod gyrwyr yn dilyn yr arwyddion melyn pwrpasol ac yn gwrando ar y cynghorion a roddir er mwyn sicrhau bod y traffig yn symud yn hwylus. Gwrandewch hefyd ar yr adroddiadau trafnidiaeth ar y radio.
Gan ddefnyddio Sat Nav
Defnyddiwch Llanymddyfri yn y sat nav / google maps / Waze / unrhyw offeryn llywio arall.
Mae Llanymddyfri wedi'i lleoli ar yr A40 lle mae'n cyfarfod â'r A483.
Meysydd Parcio yr Eisteddfod
Mae'r maes parcio ar gyfer yr Eisteddfod eleni wedi'i gynllunio ar gyfer traffig sy'n dod drwy'r holl brif lwybrau i'r dref - wrth i chi ddod i mewn i'r dref, dilynwch ARWYDDION y DIGWYDDIAD i'r meysydd parcio swyddogol.
Mae'r holl barcio am ddim ac o bob maes parcio mae llwybrau diogel i gerddwyr ar balmentydd i'r Maes. Mae rhai croesfannau ychwanegol i gerddwyr yn cael eu gosod ar gyfer wythnos Eisteddfod yr Urdd.
Sylwer:
Fe fydd yna nifer o gyfyngiadau parcio yn Llanymddyfri yn atal ceir rhag parcio ar y briffordd - peidiwch â pharcio'n anghyfreithlon ar briffyrdd Llanymddyfri.
Cofiwch fod croesffordd rheilffordd ar yr A40 yn Llanymddyfri - peidiwch â chiwio o dan unrhyw amod ar y rheilffordd.
Gadewch ddigon o amser ar gyfer eich taith a'r daith gerdded i'r Maes.
Mae’r meysydd parcio yn agor am 6.30yb
Carafanau a Gwersylla
Carafanau a gwersyllwyr yn cyrraedd Dydd Gwener 26ain – Dydd Sul 28ain Mai – dilynwch arwyddion y digwyddiad ar ôl cyrraedd Llanymddyfri – gan fod hyn yn wahanol i weddill yr wythnos.
Beiciau
Darperir ardal wrth ymyl y Ganolfan Groeso i chi adael eich beic.