Rydym yn cynnig tocynnau cyfaill am ddim i Faes yr Eisteddfod. Wrth archebu tocyn hygyrch i’r Maes, bydd cyfle i ti ychwanegu tocyn cyfaill am ddim i dy fasged. Os wyt ti’n archebu dy docyn hygyrch yn y swyddfa docynnau, gellir hawlio tocyn cyfaill yno hefyd. Mae sustem “loop” yn ein swyddfa docynnau, sy’n cynnig cymorth i bobl sydd yn gwisgo teclyn clywed wrth archebu tocynnau.
Y Pafiliynau: Coch, gwyn a gwyrdd.
Bydd cystadlaethau yn cael eu cynnal yn yr holl bafiliynau trwy gydol yr wythnos. Bydd stiwardiaid wastad yn bresennol yn y pafiliynau ac ar gael i helpu os oes angen cymorth arnoch chi. Os ydych yn ddefnyddiwr cadair olwyn, bydd stiwardiaid yn gallu eich tywys i sedd sydd yn addas ar eich cyfer. Bydd hefyd lle i’ch cyfaill eistedd gyda chi.
Cyfieithydd BSL
Byddwn yn cynnig gwasanaeth dehongli BSL ar y Maes trwy gydol yr wythnos. Os ydych chi angen y wasanaeth BSL neu unrhyw gymorth yn ystod yr wythnos, dewch draw i’r Ganolfan Groeso at Ollie, ein swyddog hygyrchedd i roi eich cais mewn.
Mae Cwmni Theatr Taking Flight hefyd wedi paratoi codiau QR sydd ar hyd prif ardaloedd y Maes. Wrth sganio rhain ar eich ffon, bydd fideo BSL yn arddangos – sy’n egluro beth sy’n mynd ymlaen yn yr ardal benodol honno.
Cŵn Cymorth
Rydym yn croesawu Cŵn Cymorth ym mhob ardal o’r Maes – mae hyn yn cynnwys c Cŵn tywys a chŵn lles. Os ydych chi a’ch ci angen sedd yn un o’r pafiliynau, rhowch wybod i un o’r stiwardiaid wrth y drws a gallwn eich tywys at seddi sydd yn addas ar eich cyfer. Mae ardal arbennig wedi’i neilltuo i’ch ci, er mwyn cael seibiant a dŵr.
Nant Caredig
Bydd Iwrt Nant Caredig yn cynnig gofod tawel i unigolion niwroamrywiol neu unrhyw un arall sydd angen gofod tawel i ymlacio, i ffwrdd o brysurdeb y Maes. Yn ystod yr wythnos, bydd gweithdai lles fel gweithgareddau cyfannol a reflexology yn digwydd yn y Iwrt. Mae'r amserlen ar yr Ap.
Goleuadau Fflachiog
Mae’n debygol y bydd defnydd o oleuadau fflachiog mewn rhai cystadlaethau / digwyddiadau ar hyd y Maes, gan gynnwys Gŵyl Triban ar ddiwedd yr wythnos.
Toiledau
Mae toiledau hygyrch ym mhob un o’r blociau toiledau ar y Maes. Mae un bloc i’r chwith o’r brif fynedfa fel rydych yn dod mewn i’r Maes, mae un bloc wrth yr Arddorfa, ac mae un bloc tu ôl i’r pafiliwn gwyrdd. Mae toilet dibyniaeth uchel gyda hoes hefyd wedi’i leoli wrth y bloc toiledau wrth y brif fynedfa – bydd angen ‘radar key’ er mwyn cael mynediad yma. Mae gan yr holl doiledau hygyrch a dibyniaeth uchel sinc gyda dŵr yn rhedeg – nodwch does dim sinc na dŵr yn y toiledau cyffredin. Mae toiledau hygyrch hefyd ar gael yng nghefn pob pafiliwn ar gyfer y cystadleuwyr.
Pwyntiau Dŵr
Mae sawl pwynt dwr o amgylch y Maes ble gellir llenwi dy fotel, mae’r pwyntiau yma wedi nodi ar fap swyddogol yr Eisteddfod. Mae un tu allan i’r Ganolfan Groes ac un arall tu allan i babell Cogurdd a Thrin Gwallt a Harddwch. Mae croeso i chi lenwi’ch potel yn y lolfa goffi hefyd.
Gwersylla a Charafanau
Mae un cawod hygyrch yn y cae gwersylla ac dau yn y maes carafannau. Mae ardal glanhau (washing up) gyda sinc a dŵr, a barbeciw yma hefyd. Mae trac yn arwain fyny at Gae’r Gwersylla.
Y Maes ac Ymwelwyr Anabl
Mae Eisteddfod yr urdd Maldwyn 2024 wedi’i leoli ar dir Amaethyddol fferm Mathrafal. Mae’r Maes ar dir fflat ac mae tracfyrddau wedi’u gosod fel llwybrau hygyrch er mwyn crwydro’r Eisteddfod. Yn unol â’n hymgyrch i wella ein hygyrchedd, ein nod yw sicrhau bod holl ardaloedd y Maes yn hygyrch a’n addas ar gyfer ein holl ymwelwyr. Os oes angen cymorth arnoch chi ar unrhyw bwynt yn ystod yr wythnos, mae croeso i chi gysylltu ag Ollie, ein swyddog hygyrchedd ar: ollie@urdd.org
Bydd stiwardiaid hefyd ar hyd y Maes ac yn barod i’ch helpu.
Mae platfform gwylio ar gael yn yr Adlen eleni, ac mae croeso i chi ddefnyddio hwn ar unrhyw bwynt yn ystod yr wythnos. Mae pabell St John’s wedi’i leoli tu ôl i’r pafiliwn Gwyrdd os ydych chi angen cymorth meddygol yn ystod yr wythnos.