Gwyliwch yr enillydd yn cael ei ddatgelu!

1af: Carwyn Morgan Eckley

Mae Carwyn Morgan Eckley yn dod o Benygroes, Dyffryn Nantlle yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i gariad Siân, ac yn gweithio fel newyddiadurwr i ITV Cymru. Enillodd Cadair yr Eisteddfod Ryng-golegol yn 2017, Cadair Castell Newydd Emlyn yn 2018 a Chadair Eisteddfod Y Ffôr yn 2019.

Prifardd (Twitter Post).png

2il: Matthew Tucker

Daw Matthew Tucker yn wreiddiol o bentref Yr Hendy yn Sir Gaerfyrddin, ond erbyn hyn yn byw ym Mhorth Tywyn gyda’i ddyweddi, Ebony. Mae o’n Bennaeth Blwyddyn 8 ac yn athro yn yr adran Gymraeg yn Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gâr. Dysgodd sut i gynganeddu tra yn y chweched dosbarth yn Ysgol Y Strade, Llanelli, dan arweiniad y Prifardd Tudur Dylan Jones. Mae wedi ennill gwobrau a thlysau mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol, a daeth yn agos at y brig yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2017 a 2019.

Copy of Y Gadair 2il (Twitter Post).png

3ydd: Caryl Bryn Hughes

Daw Caryl Bryn yn wreiddiol o Borth Amlwch, Ynys Môn ond mae bellach wedi ymgartrefu yn Llanrug, ger Caernarfon gyda’i chariad, Gethin. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2020 gyda’i chyfrol gyntaf a gyhoeddwyd dan faner y Stamp, ‘Hwn ydy’r Llais, tybad?’ Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2019. Mae wrthi’n gweithio ar ei hail gyfrol o gerddi ac yn gobeithio’i chyhoeddi yn 2022._Cadair 3ydd (Twitter Post).png