Mae Theatr Genedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru ac S4C yn galw am ddramodwyr ifanc i fod yn rhan o gynllun ysgrifennu cenedlaethol newydd sbon.

Galwad agored am bobl ifanc 17 – 25 oed sy’n dymuno bod yn rhan o gynllun ysgrifennu cenedlaethol.

Yn Rhagfyr 2020, daeth Theatr Genedlaethol Cymru, Eisteddfod yr Urdd ac S4C ynghyd i sefydlu partneriaeth newydd sbon, er mwyn gallu rhannu eu sgiliau amrywiol a darparu cyfleoedd hyfforddi a mentora unigryw ar gyfer cenhedlaeth newydd o ddramodwyr ifanc.

Roedd yr ymateb i’r Cynllun Dramodwyr Ifanc yn wych. Derbyniwyd 45 o geisiadau gan bobl ifanc led led Cymru a phob un wedi eu derbyn i fod yn rhan o’r fenter newydd.

I bwy?

Ydych chi’n hoffi sgwennu? Oes gennych chi ddawn am ddweud stori, creu cymeriadau diddorol neu farddoni? Mae Theatr Genedlaethol Cymru, Urdd Gobaith Cymru a S4C yn lansio Cynllun Dramodwyr Ifanc i bobl 17 – 25 oed, er mwyn meithrin y genhedlaeth nesaf o ddramodwyr Cymraeg.

Am y cyfle

Yn gyntaf, cyfle i rwydweithio a chwrdd â dramodwyr proffesiynol yn y maes yma yng Nghymru. Yn ail, gweithdai meistr gyda dramodwyr Cymreig llwyddiannus, arbenigwyr theatr a’r rhai sy’n gweithio yn y byd drama o fewn y sector cyfryngau. Bydd cyfle hefyd i’r rhai sy’n dymuno cystadlu yn yr Urdd yn 2022 i ddatblygu sgriptiau yn seiliedig ar y rhestr testunau.

Diddordeb? 

Gall bawb sydd â diddordeb fanteisio ar y cynllun hwn. Rydym yn chwilio am leisiau newydd a ffres, does dim angen unrhyw brofiad blaenorol o sgriptio a drama.  Os ydych chi rhwng 17 – 25 oed ac yn hoffi ysgrifennu, dweud stori, creu cymeriadau diddorol neu farddoni yna ewch amdani! Rydym yn awyddus iawn i glywed gan bobl ifanc o gefndiroedd sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector creadigol ar hyn o bryd, gan gynnwys pobl anabl, pobl Du, Asiaidd, ac ethnig lleiafrifol, pobl LGBTQ+, a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol sy’n cael eu tangynrychioli 

Sut i wneud cais

Anfonwch ddarn ysgrifenedig hyd at 300 gair neu gyflwyniad fideo neu recordiad llais hyd at 3 munud o hyd, gan egluro pam eich bod chi’n dymuno bod yn rhan o’r Cynllun Dramodwyr Ifanc. E- bostiwch nhw draw i creu@theatr.com neu os yn fideo danfonwch drwy whats app at 07903 842617 erbyn y dyddiad cau, sef Dydd Gwener yr 17eg o Ragfyr, 2021 am 5yh.


Dwi'n dysgu Cymraeg, ga i wneud cais?

Cynllun cyfrwng Cymraeg yw hwn, ond ry’n ni’n awyddus i gefnogi a chynorthwyo unrhyw un sy’n teimlo diffyg hyder yn yr iaith. Ry’n ni hefyd wedi ymrwymo i wneud y cynllun hwn yn hygyrch i bawb. Felly plis cysylltwch â ni i drafod eich gofynion. Does dim angen i ymgeiswyr fod yn aelodau o’r Urdd – ond bydd angen ymuno er mwyn cystadlu ar gyfer unrhyw gystadleuaeth cyfansoddi yn Eisteddfodau’r dyfodol.