Mae ‘na dôn i godi’n calonnau      

A llawenydd ar awel y gân

Mae ‘na rythmau i’n hysbrydoli

Yn un côr, yn ddi-wahan.

Ymhob pennill, a phob curiad,        

Ymhob cytgan, pob nodyn a thraw,     

Cerddoriaeth sy’n gysur i’r enaid,          

N’ein cynnal beth bynnag a ddaw.  

Yn ein galar neu wrth ddathlu,

Wrth ymlacio neu’n y gwaith,

Mae ‘na gân neu gainc neu alaw

i’n helpu ar ein taith,

Yn allwedd i agor bob calon

yn falm ar glwyf a chraith.

Pan fo geiriau weithiau’n methu       

A’n teimladau yn glymau tynn,                 

Pan fo stormydd ar y gorwel

A fflamau anobaith ynghynn,

Cerddoriaeth sy’n llenwi pob gwagle,                       

Gan atseinio yn nyfnder y co’,

Cerddoriaeth, mewn byd o dywyllwch,  

Sy’n rhyddhau’r teimladau dan glo.  

 

Yn ein galar neu wrth ddathlu,

Wrth ymlacio neu’n y gwaith,

Mae ‘na gân neu gainc neu alaw

i’n helpu ar ein taith,

Yn allwedd i agor pob calon

yn falm ar glwyf a chraith.

 

Cerddoriaeth yw sain pob emosiwn a gawn,

Pan fo’ch byd yn wag, neu’ch bywyd yn llawn.

Mae stori i blethu’r nodau mân,

A chariad yw cerdd, a bywyd yn gân.

 

Yn ein galar neu wrth ddathlu,

Wrth ymlacio neu’n y gwaith,

Mae ‘na gân neu gainc neu alaw

i’n helpu ar ein taith,

Yn allwedd i agor pob calon

                                                           yn falm ar glwyf a chraith.