Mae mynediad i faes Eisteddfod yr Urdd am ddim eleni am y tro cyntaf!
Bydd angen i oedolion (18+) brynu band braich am fynediad i'r Pafiliwn a'r rhagbrofion, ond bydd mynediad am ddim i blant a holl gystadleuwyr.
Mae'r bandiau braich ar werth o wefan Canolfan y Mileniwm, sef ein Pafiliwn eleni! Ewch i waelod y dudalen am atebion i gwestiynau cyffredin am docynnau'r Eisteddfod.
Llinell docynnau: 029 2063 6464
Mae tocynnau mynediad i'r Pafiliwn a'r rhagbrofion nawr ar werth o wefan Canolfan y Mileniwm. Prynwch eich rhai chi nawr yma am y pris cynnar gostyngol!
Dod o hyd i docynnauArchebwch eich tocynnau ar gyfer y Cyngerdd Agoriadol, sioeau nos a'r cystadlu hwyr!
Dod o hyd i docynnauYdw i angen band braich?
Ble ydw i’n gallu prynu band braich?
Ble mae’r bandiau braich yn caniatáu i fi fynd?
Mae mynediad i Faes yr Eisteddfod yn rhad ac am ddim, a does dim angen Band Braich er mwyn ymweld â’r Maes a’r holl stondinau. Mae’r Bandiau Braich yn caniatáu mynediad i’r holl leoliadau cystadlu sy’n cynnwys Sinemau'r Odeon, rhagbrofion yng Nghanolfan y Mileniwm, y Neuadd Gorawl, y Neuadd Ddawns a’r Pafiliwn yn Theatr Donald Gordon.
Oes bandiau braich gwahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol?
Un math o fand braich sydd yn mynd i fod ar gael bob dydd. Bydd y bandiau braich yn caniatáu mynediad i’r holl leoliadau cystadlu gyda’r dydd a gyda’r hwyr (os oes seddi gwag ar gael yn y lleoliadau hynny.)
Beth yw cost y bandiau braich?
Mae’r Bandiau Braich ar gael am bris gostyngol o £13 tan ddiwedd Ebrill. O ddechrau mis Mai byddant ar werth am y pris llawn o £15
Bydd 50% i ffwrdd ar gyfer bandiau braich dydd Sadwrn, 1 Mehefin sy’n golygu bod y gost yn £6.50 hyd at ddiwedd Ebrill a £7.50 o ddechrau mis Mai.
Mae’r bandiau braich ar gael am £10 i fyfyrwyr a’r di-waith (prynu ar y dydd yn unig).
Oes modd argraffu adref?
Nac oes. Oherwydd ein bod yn gwerthu bandiau braich yn 2019 yn hytrach na thocynnau mynediad, does dim modd cynnig yr opsiwn e-docyn/argraffu adre.
Rydym yn bwriadu cynnig yr opsiwn e-docyn/argraffu adre unwaith eto o 2020 ymlaen.
Ydy’r bandiau braich yn gwarantu sedd mewn rhagbrawf/Pafiliwn?
Dydy’r bandiau braich ddim yn gwarantu sedd mewn unrhyw leoliad. Yn ôl y drefn arferol caniateir mynediad i Rhagbrawf/Pafiliwn os oes seddi gwag ar gael. Bydd ein stiwardiaid yn gwneud eu gorau i sicrhau bod cefnogwyr yn medru mynd mewn i weld cystadlaethau penodol.
Pwy sydd yn mynd i fod yn gwirio’r bandiau braich?
Bydd stiwardiaid a/neu swyddogion diogelwch yn gwirio bandiau braich oedolion wrth ddrysau bob lleoliad cystadlu. Yng Nghanolfan y Mileniwm, bydd hynny’n digwydd ar waelod y grisiau.
Cofiwch felly os ydych yn riant neu’n gefnogwr sydd eisiau gweld y cystadlu, bydd angen ichi brynu band braich er mwyn medru mynd i’r lleoliadau cystadlu yng Nghanolfan y Mileniwm. Er hynny, bydd modd i bawb ddod mewn i gyntedd y Ganolfan, a defnyddio’r adnoddau/caffis/bariau heb Fand Braich.
Dwi’n mynd i weld cystadleuaeth y Gân Actol/Dawnsio Disgo/Cerddorfeydd gyda’r hwyr – oes angen band braich arnaf?
Oes. Mae angen i oedolion sydd yn dymuno mynd i weld unrhyw gystadlu (yn ystod y dydd neu fin nos) gael band braich ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Oes bandiau braich wythnos ar gael?
Nac Oes. Bydd rhaid i chi brynu bandiau braich ar gyfer pob diwrnod rydych yn bwriadu ymweld â’r lleoliadau cystadlu. Bydd lliw gwahanol ar gyfer bob diwrnod.
Oes opsiwn Pecyn/Tocyn Teulu ar gael eleni?
Nac oes. Oherwydd bod plant a chystadleuwyr yn cael mynediad am ddim i’r holl leoliadau cystadlu beth bynnag, a phawb yn cael mynediad am ddim i’r Maes, does dim angen cynnig pecyn teulu yn 2019.
Rydw i’n oedolyn sydd wedi cyrraedd lleoliad rhagbrawf i gefnogi cystadleuydd, ond wedi dod heb fand braich, ac mae’r stiwardiaid/swyddogion diogelwch yn gwrthod caniatáu mynediad i fi. Beth alla’i wneud?
Bydd y bandiau braich ar gael i'w prynu yng Nghanolfan y Mileniwm, yng Nghanolfan y Ddraig Goch ac wrth ymyl y Neuadd Gorawl a’r Neuadd Ddawns. Bydd angen i chi ddychwelyd i un o’r lleoliadau hyn i brynu eich band braich.
Rydym yn cynghori pawb i flaen-gynllunio, a phrynu bandiau braich mewn da bryd er mwyn osgoi sefyllfaoedd fel hyn.