Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn falch iawn i gydweithio â'r Selar i ddod â cherddoriaeth Gymraeg gyfoes i faes Eisteddfod yr Urdd. Eleni, ym Mae Caerdydd, mae mwy o artistiaid yn chwarae ar y llwyfan perfformio nag erioed o’r blaen!

 

Un datblygiad eleni ydy fod slotiau hwyrach yn y prynhawn bob dydd, ac mae cyfle i chi ddal rhai o enwau mwyaf y sin. Rydym hefyd yn cydweithio gyda sawl partner – mae ‘slotiau showcês’ i roi blas o artistiaid Brwydr y Bandiau Maes B / Radio Cymru eleni ddechrau’r wythnos; byddwn ni’n dathlu gŵyl flynyddol Caerdydd, Tafwyl, gyda llu o artistiaid o’r brifddinas ar y dydd Iau; a dydd Gwener ydy diwrnod cynllun Gorwelion y BBC lle bydd perfformiadau unigryw iawn yn dod a rhywbeth hollol wahanol i’r Llwyfan Berfformio.

Ers tair blynedd mae’r gig nos Sadwrn wedi bod yn uchafbwynt teilwng i gloi yr wythnos, ond eleni am y tro cyntaf bydd gig ar y nos Wener hefyd gyda Chroma, Fleur de Lys a band y foment, Gwilym yn rocio’r Bae. Ac wrth gwrs bydd nos Sadwrn yn barti mawr i ddathlu diwedd yr wythnos – a phwy gwell mewn parti na Band Pres Llareggub! 

Amserlen yr wythnos