Pryd mae'r daith?
Bydd y daith yn digwydd rhwng y 10fed a'r 16eg o Awst 2024, felly mae angen i'r aelwyd fod yn rhydd bryd hynny.
Oes rhaid i bawb deithio ar y dyddiadau yma?
Oes, mae'n ofynnol bod pawb ar gael ar y dyddiadau sydd wedi'u nodi.
Ydi'r daith am ddim?
Bydd y costau teithio, llety a bwyd (brecwast, cinio a swper) wedi'u talu amdanynt. Mae unrhyw wariant personol yn ddewisiol i'r unigolyn.
Lle i faint o bobl sydd ar y daith?
Mae lle i hyd at 40 o bobl ar y daith. Mae gan y daith lleiafswm o 30 unigolion. Mae'r ffigwr yma'n cynnwys y bobl ifanc a'r arweinwyr.
Pwy sy'n cael ceisio am y daith?
Mae croeso i holl aelwydydd yr Urdd gyflwyno cais ar gyfer y daith. Mae lle i hyd at 40 o bobl. Bydd angen sicrhau bod o leiaf 30 o rhain yn rhan o leisiau'r perfformiad (os ydych yn penderfyny canu). Nid oes rhaid llewni'r capasiti. Mae rhaid i'r perfformwyr fod yn oleiaf 14 oed ac o fewn oedran aelwydau'r Urdd.
Beth yw'r gofynion perfformio?
Bydd angen i chi baratoi rhaglen 30 munud o ganu, dawnsio neu cyfuniad o'r ddau i'w berfformio yn yr Wyl. Bydd y rhaglen yma yn cael ei berfformio yn ddyddiol rhwng y 10fed a'r 16eg o Awst. Bydd hefyd amser i fwynhau'r Wyl. Rhaid i iaith y perfformiad fod yn Gymraeg. Mae'n benderfyniad i chi fel aelwyd os ydych chi'n canu, dawnsio neu'n cyfuno'r ddau.
Bydd llety wedi'i drefnu?
Bydd hostel wedi'i archebu ar gyfer yr aelwyd. Mae hyn yn golygu bod rhannu ystafelloedd yn ofynnol. Os am archebu llety / ystafelloedd ychwannegol, bydd rhaid i'r aelwyd dalu.
Cyfrifoldeb pwy yw trefnu'r daith?
Bydd Swyddog Rhyngwladol yr Urdd yn trefnu'r daith mewn cyd-weithrediad ac arweinydd yr Aelwyd.
Sut bydd yr Urdd yn dewis yr aelwyd llwyddiannus?
Bydd yr holl geisiadau yn cael eu ystyried a'u trafod gan banel o'r Urdd. Mae'n bwysig felly eich bod yn ystyried hynny wrth gyflwyno'ch cais gan wneud y mwyaf o'r cwestiynau agored.
Pryd fyddwn yn gwybod os ydi'r aelwyd wedi'i dewis?
Bydd yr Urdd wedi eich hysbysu naill ffordd erbyn y 31 o Ionawr 2024.
Oes angen cyfeilydd ar y daith?
Mae croeso i gyfeilydd fod yn un o'r 40 sy'n teithio, neu gallwch ddefnyddio trac sain. Mae hyn yn bendefyniad i'ch arweinydd.
Sut bydd yr aelwyd yn teithio i'r Wyl?
Bydd yr aelwyd yn teithio ar fferi dros nos ar y nos Sadwrn a'n cyrraedd bore ddydd Sul. Bydd man eistedd gan yr aelwyd ar y fferi gyda 'reclining chairs'.
Pryd mae'r dyddiad cau i gyflwyno cais?
18fed o Ragfyr am 12yp.
Pwy fydd yn gyfrifol am iechyd a diogelwch yr aelwyd?
Cyfrifoldeb yr Aelwyd bydd iechyd a diogelwch yr holl deithwyr. Os yn teithio gyda aelodau dan 18 oed, cyfrifoldeb arweinydd / ion yr aelwyd bydd sicrhau dilyn y canllawiau gofal plant priodol. Yr arweinydd / ion bydd yn gyfrifol am aelodau'r aelwyd trwy gydol y daith.