Tocynnau Eisteddfod Sir Gaerfyrddin 

Sut ydw i’n archebu tocyn i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023?

Bydd tocynnau ar gael i'w prynu o wefan yr Eisteddfod ar 28 Mawrth. 

Pa fath o docyn fyddai'n defnyddio i gael mynediad i faes Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin?

Eleni, bydd Eisteddfod yr Urdd yn defnyddio e-docynnau drwy gydol yr Ŵyl gan ofyn i ymwelwyr ddangos eu tocynnau ar ffon neu dabled yn y Ganolfan Groeso i gael mynediad. Bydd cod QR unigryw ar bob e-docyn a bydd staff yn sganio tocynnau ymwelwyr yn y fynedfa. Dim ond un waith bydd modd cael mynediad ar bob tocyn.

Oes rhaid archebu tocyn ar wahân ar gyfer prif seremonïau a Gŵyl Triban?

Mae tocyn maes yr Eisteddfod yn rhoi mynediad i’r prif seremonïau bob dydd, ac i Ŵyl Triban ar yr 2il a 3ydd o Fehefin. 

Oes angen i mi brynu tocyn ar wahan i Chwilio'r Chwedlau? 

Oes. Bydd Chwilio'r Chwedlau yn cael ei gynnal ar 28 Mai. Bydd tocynnau ar werth yn fuan. 

Ydw i'n gallu hawlio tocyn incwm isel?

Diolch i gefnogaeth ariannol o £150,000 gan Lywodraeth Cymru bydd teuluoedd incwm isel yn gallu hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni. Mae'r cyllid yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru drwy eu Cytundeb Cydweithio.

Mae dwy ffordd i deuluoedd incwm isel hawlio tocynnau am ddim i Faes Eisteddfod yr Urdd eleni:

• Aelodaeth £1 yr Urdd - bydd yr Urdd yn e-bostio teuluoedd sydd yn derbyn Aelodaeth £1 yr Urdd hefo manylion hawlio tocynnau, ynghyd â chod disgownt unigryw i’r cyfri hwnnw.

• Ffurflen gais – i hawlio tocyn incwm isel bydd gofyn i deuluoedd lenwi ffurflen gais ar wefan yr Urdd. Bydd angen i berson neu deulu nodi eu bod yn gymwys i un o’r meini prawf cyn gellir gwneud cais am docyn.

 

Dyma'r meini prawf:

· Cymhorthdal Incwm

· Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm

· Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm

· Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 Elfen warantedig

· Credyd Pensiwn Credyd Treth Plant Credyd Treth Gwaith

· Credyd Cynhwysol

· Aelodaeth £1

 

Os nad ydych yn siŵr os ydych yn gymwys ar gyfer tocyn incwm isel, yna cysylltwch efo eisteddfod@urdd.org

Ga i brynu tocyn / tocyn incwm isel ar y drws? 

Cei! Ond bydd y pris yn codi ar y drws felly rydym yn annog pobl i archebu o flaen llaw. Bydd modd cael tocyn isel ar y drws, ond bydd angen dod a phrawf i brofi dy fod yn cwrdd â'r meini prawf.

Ydw i'n gallu cael tocyn cyfaill os ydw i'n berson anabl?

Wyt. Mae ymwelwyr anabl yn gallu hawlio tocyn am ddim i'w cyfaill, cynhaliwr neu gynorthwy-ydd personol. I hawlio eich tocyn am ddim, cysylltwch â eisteddfod@urdd.org

Ydw i’n gymwys am Aelodaeth £1?

Os yw y plentyn yn derbyn cymorth ariannol megis talebau ariannol tuag at ‘ginio ysgol am ddim’ (Bl1 i fyny), grant cynllun gwisg ysgol neu lwfans cynhaliaeth addysg 16-18 fel cymorth ariannol yna pris aelodaeth yw £1.

Mae gen i aelodaeth £1, sut ydw i'n cael fy nhocyn am ddim?

Pan fydd y tocynnau ar werth, y cyfan sydd angen i ti wneud yw defnyddio dy rif aelodaeth fel cod ddisgownt wrth gwblhau dy archeb.

Sut mae dod o hyd i fy rhif aelodaeth?

Er mwyn dod o hyd i rif aelodaeth, gallwch unai chwilio am ‘Porth yr Urdd’ yn eich blwch e-bost a chwilio am neges gyda theitl ‘Rhif Aelodaeth yr Urdd’. Bydd y neges yma’n cadarnhau yr aelodaeth ac yn nodi’r rhif aelodaeth ynddo, neu gallwch fewngofnodi i’ch cyfrif Porth, cliciwch ar ‘Ymuno/adnewyddu a thalu’ a bydd unrhyw aelodaeth cyfredol yn ymddangos yn y tabl.

Rydw i'n archebu tocyn i fwy nag un person, sut ydw i'n rhannu'r tocynnau?

Os ydych yn prynu tocynnau i grŵp, gôr neu ysgol a ni fydd pawb yn cyrraedd gyda’i gilydd, bydd yn rhaid i chi argraffu’r tocynnau (neu dynnu lun ar sgrin) a’u rhannu gyda’r aelodau o flaen llaw iddyn nhw allu cael mynediad i’r Maes.

Mae fy mhlentyn yn cystadlu - ydi nhw angen tocyn maes?

Os yw eich plentyn yn cystadlu yn yr Eisteddfod, bydd angen tocyn arnyn nhw. Mae rhain ar gael gyda'r tocynnau cyffredin ond mae pris gostyngol ar eu cyfer.

 

 

Rwy'n archebu tocyn i'r teulu / grŵp bach o bobl, galla i gadw'r tocynnau ar fy ffôn? 

Bydd disgwyl i bobl ymwelydd a’r Maes i gael e-docyn ei hun, ond gall y tocyn fod ar ffôn un person os yw ymwelwyr yn cyrraedd gyda’i gilydd e.e Gall un aelod o deulu gael y 4 tocyn ar ffôn os yw’r 4 aelod o’r teulu yn cyrraedd gyda’i gilydd.

Ga’i brintio fy nhocyn maes?

Rydym yn annog mynychwyr Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin 2023 i ddefnyddio ffôn i arddangos tocynnau. Os oes rhaid printio eich tocyn, mi fyddwn yn gallu sganio’r tocyn ar bapur.