Cwmni Theatr Ieuenctid Cenedlaethol yr Urdd yn ôl ar ei newydd wedd
Mae Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn ôl ar ei newydd wedd a'n gyffrous i gyhoeddi mai cynhyrchiad newydd o ‘Deffro’r Gwanwyn’ gan Dafydd James, cyfieithiad o ‘Spring Awakening: A New Musical’ gan Steven Sater a Duncan Sheiks bydd ein cynhyrchiad cyntaf!
Bydd y cynhyrchiad yn cael ei berfformio yn Theatr y Werin, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth Medi 1af a Medi’r 2il 2023.
Cyfarwyddwr y cynhyrchiad ydy Angharad Lee a Rhys Taylor ydy’r Cyfarwyddwr Cerdd.
Bydd Y Cwmni yn cynnwys cast o 24 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 mlwydd oed o bob rhan o Gymru yn ogystal â band byw a thîm yn cynorthwyo gyda chynllunio a rheoli llwyfan.
Wedi ei seilio ar ddrama bwerus a dadleuol Frank Wedekind mae’r cynhyrchiad yn archwilio deffroad rhywiol, ieuenctid yn rebelio a hunan ddarganfyddiad. Mae’r cynhyrchiad wedi ei osod yn 1891 ac yn cynnwys cerddoriaeth gyfredol sydd yn creu tensiwn a gwrthdaro difyr.
Cafodd cyfieithiad Deffro’r Gwanwyn gan Dafydd James ei gomisiynu yn wreiddiol gan Theatr Genedlaethol Cymru a bu dwy daith lwyddiannus o’r cynhyrchiad yn 2010 a 2011.
Mae Deffro’r Gwanwyn yn ddathliad lliwgar ac egniol o ieuenctid a rebelio. Mae’n ymwneud â themau sydd dal yn anghyfforddus i’w trafod ar brydiau a hynny mewn modd gonest a miniog.
Dyma flas i ti o un o ganeuon y sioe wedi ei recordio gan gast gwreiddiol Theatr Genedlaethol Cymru -
Galw am Actorion!
Mae 13 prif gymeriad ac hefyd gyfle i fod yn rhan o’r ensemble
Sut i fod yn rhan o’r cast?
- Bydd angen i ti baratoi monolog dim mwy na 2 funud o hyd (hunan ddewis ond mae dewis o fonologau ar gael isod os ti angen ysbrydoliaeth)
- Bydd hefyd angen i ti baratoi cân dim mwy na munud a hanner o hyd
Bydd clyweliadau yn digwydd yn ystod mis Mawrth
Mae gen ti opsiwn o glyweliad grŵp, clyweliad ar-lein neu recordio clip a'i anfon draw atom ni cyn y 7fed o Ebrill.
Clicia yma i gofrestru ar gyfer clyweliad
Galw am Gerddorion!
Rydym yn chwilo am fand i chwarae’n fyw yn ein sioe gerdd roc 'Deffro’r Gwanwyn'!
Rhwng 16 a 25 mlwydd oed ac yn hyderus yn chwarae’r isod?
- Double Bass ac Electric Bass (perfformio'r ddau yn y clyweliad)
- Violin
- Gitar Drydan
- Drums
- Percussion
- Viola
- Cello
- Gitar Drydan ac Acoustic (perfformio’r ddau yn y clyweliad)
Llenwa'r ffurflen clyweliad yma -
Ac yno anfona recordiad / fideo 2 funud o hyd o dy hun yn perfformio dy offeryn i branwendavies@urdd.org erbyn Ebrill 30ain
Does dim rhaid i’r darn fod allan o sioe ‘Deffro’r Gwanwyn’, ond ystyriwch genre a steil y sioe wrth ddewis eich darn clyweliad. Mae recordiad ‘Spring Awakening’ ar gael ar blatfformau ffrydio cerddoriaeth ar lein.’
Ymrwymiad:
- Bydd ymarferion preswyl yn Llangrannog Awst 21-27ain ac Aberystwyth 28-31ain
- Perfformio yn Theatr y Werin, Aberystwyth, y 1af a'r 2il o Fedi 2023