Mae ’Sbardun Busnes’ yn brosiect cenedlaethol sy’n cynnig cyfle a phrofiad ym myd busnes a mentergarwch i bobl ifanc yma yng Nghymru.
Caiff y cwrs 3 diwrnod ei gynnal dros hanner tymor y Gwanwyn, rhwng y 20fed a’r 22ain o Chwefror 2023, yng Nglan Llyn Isa’, Llanuwchllyn.
Mentoriaid proffesiynnol a phobl busnes profiadol fydd yn arwain y cyfan. Byddwn yn trafod sut i ddatblygu syniad busnes o’r newydd a sut i gyflwyno’r syniad yn gyhoeddus o flaen panel. Bydd ein arbenigwyr yn edrych ar elfennau hanfodol eraill, gan gynnwys cymorth ariannol i ddechrau busnes a sut i farchnata busnes. Bydd pawb yn gadael gyda syniadau, a’r arfau i fynd ati i ymchwilio a datblygu’r syniad yn y dyfodol.
Mae’n gwrs arloesol ac yn faes newydd sbon i’r Urdd. Y bwriad yw hybu a chefnogi mwy o Gymry Cymraeg ifanc i fentro i’r maes busnes, er mwyn sicrhau dyfodol llwyddiannus i’r iaith a’n diwylliant. Mae’n bwysig inni feithrin talentau ein pobl ifanc a hybu mentergarwch. Gobeithio bydd sawl busnes Cymraeg newydd yn datblygu tuar'r dyfodol, o ganlyniad i’r cwrs!
Cofrestrwch yma! - https://bit.ly/archebuiac
« Nol