Mae gweithgareddau digidol Cymraeg Bob Dydd yn gyfle i aelodau uwchradd sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith ddod at ei gilydd mewn awyrgylch diogel dros Zoom gyda staff cyfeillgar yr Urdd. Dewch i gymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog gyda ffrindiau hen a newydd ac ymarfer sgiliau Cymraeg.
Oes rhaid bod yn aelod o'r Urdd?
O fis Hydref, bydd sesiynau Cymraeg Bob Dydd ar gyfer aelodau'r Urdd yn unig. Mae croeso mawr i bawb nad ydyn nhw'n aelodau trwy sesiynau mis Medi i roi blas i chi o'r sesiynau, ac i roi amser i chi benderfynu a ydych chi am ymuno fel aelod. Gallwch ymuno ar-lein yn hawdd yma.
Faint yw'r sesiynau?
Mae holl sesiynau Cymraeg Bob Dydd am ddim i aelodau'r Urdd.
Calendr
Cofrestra ar unrhyw ddigwyddiad sydd o ddiddordeb i ti. Wedi i ti gofrestru, ar ddiwrnod y digwyddiad fe fyddi di'n derbyn linc a chyfrinair i gael mynediad!

Noson Gemau
Nos Fercher, 5 Tachwedd
6:00 - 7:00
Ymunwch â Siôn am noson o hwyl yn chwarae gemau. Cyfle i sgwrsio, chwerthin a creu ffrindiau newydd!
Cofrestru
Clwb Cerddoriaeth
Nos Fercher, 11 Tachwedd
6:00 - 7:00
Hoffi cerddoriaeth? Eisiau'r cyfle i drafod bandiau a chaneuon gyda pobl o'r un feddwl? Ymunwch gyda Marged a Lewys!
Cofrestru
Patagonia
Nos Fercher, 18 Tachwedd
6:00 - 7:00
Yn y sesiwn yma bydd Sinead yn sgwrsio am ei phrofiad o fyw allan ym Mhatagonia am flwyddyn. Ymunwch â ni i glywed hanesion ac i weld lluniau.
Cofrestru
Clwb Cerddoriaeth
Nos Fercher, 25 Tachwedd
6:00 - 7:00
Dyma'r cyfle i sgwrsio am y caneuon rwyt ti'n hoffi gyda pobl o'r un feddwl. Ymunwch a'r clwb!
Cofrestru