Urdd Gobaith Cymru X TG Lurgan - Prosiect rhif dau!
Beth yw'r prosiect?
Ar ol llwyddiant y cynhyrchiad cyntaf mae'r Urdd a mudiad ieuenctid Gwyddeleg TG Lurgan yn ymuno i wneud ail gynhyrchiad, a hynny o gân boblogaidd Cymraeg.
Gwyliwch y prosiect diwethaf, sydd wedi cael dros 100,000 o wyliadau.
Sut i gymryd rhan?
Dyma gyfle i bobl ifanc 16-25 gymryd rhan mewn prosiect rhyngwladol. Llenwch y ffurflen isod i fod yn rhan o fideo a recordiad arbennig o'r gân Gwenwyn gan Alffa. Dyma'r gân Gymraeg gyntaf i gyrraedd miliwn o ffrydiau ar blatfform Spotify!

Rydym yn edrych am bobl ifanc 16-25 i fod yn rhan o’r cyd-gynhyrchiad hwn rhwng pobl ifanc y ddwy wlad.
Oes angen i mi gael profiad?
Nid oes angen i ti fod yn ganwr neu yn gynhyrchydd proffesiynol i fod yn rhan o gwbl, mae hwn yn gyfle i bawb!
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Byddwn yn anfon trac sain a chanllawiau syml i recordio dy lais ar dy ffôn symudol. Paid poeni, bydd digon o arweiniad ac ni fydd angen i ti ganu ar ben dy hun!