Cysgu'n Brysur

Sioe gerdd wreiddiol wedi ei phlethu o amgylch caneuon Bromas a berfformiwyd 8, 9 a 10 o Orffennaf 2014 yn Pier Pressure, Aberystwyth

Galar, awch, hwyl ac antur – dyma rai o’r themâu a drafodwyd yn nrama Bethan Marlow, ’Cysgu’n Brysur’, a ysgrifennwyd ar gyfer Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn 2014.

Lleolir Cysgu’n Brysur mewn ystafell ddosbarth mewn ysgol. Mae'r arholiadau ar gychwyn ond mae un sedd wag. Yn wag am fod yr unigolyn dan sylw wedi ei ladd mewn damwain car. Mae ei fywyd ar ben ond beth am ei ffrindiau, ei gariad, ei chwaer a'i elynion? Pawb yn eistedd yn ufudd wrth eu desgiau yn eiddgar am ryddid, dan bwysau i lwyddo. Mae'r dyfodol yn bwysig ond yn gyntaf, rhaid goroesi'r presennol.

Cafwyd cast o 28 o aelodau o bob rhan o Gymru. Yn cyfarwyddo, yr oedd Jeremy Turner sydd wedi cyfarwyddo dwy o sioeau’r Urdd yn y gorffennol; ‘Plant y Fflam’ yn 2010 a ‘Sneb yn Becso Dam’ yn 2012. Rhys Taylor oedd y cyfarwyddwr cerdd a Eddie Ladd oedd y coreograffydd.

Huw Owen (Ysgol Brynrefail, Llanrug ar y pryd) a chwaraeodd ran Jacob yn y sioe. Mewn cyfweliad yn ystod y cyfnod ymarfer yn 2014, meddai; “Mae bod yn aelod o Gwmni Theatr yr Urdd yn brofiad arbennig iawn, mi rydan ni fel criw yn gweithio’n galed yn ystod y dydd ac yn cael cyfle i gymdeithasu yn ystod min nosweithiau.

“Cast bach o 28 ydan ni, ac mi rydan ni gyd yn gyrru mlaen yn grêt! Mae’r sgript yn un reit gyfoes ac mae’r gerddoriaeth yn swnio’n wych sy’n glod i’r awdur, sef Bethan Marlow, Bromas (cyfansoddwyr y gerddoriaeth) a’r tîm cynhyrchu.

“Mae fy nghymeriad i’n bersonoliaeth eithaf cymhleth. Ar yr wyneb, mae’n trio dyrchafu ei hun mewn ysgol newydd er mwyn ffitio mewn efo’r criw cŵl ac oherwydd hyn mae o’n dweud ambell i gelwydd bach gwyn sydd, yn y pen draw, yn ei arwain at drwbwl! Mae fy nghymeriad i wedi cael ei fwlio yn ei ysgol flaenorol ac felly mae’n reit fregus pan mae pethau’n mynd o chwith.

“Dwi’n ei gweld hi’n her ac yn bleser ceisio portreadu Jacob beth bynnag. Mi fydd perfformio yn y Pier Pressure yn wahanol! Ond, ar ôl bod yno’n gweld y lle rydw i a gweddill y cast yn gyffrous iawn gan ei fod yn ofod perfformio cwbl wahanol” ychwanegodd Huw.