Hanes Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd

Darllenwch hanes y Cwmni hwn sydd wedi sbarduno gyrfaoedd, ac ailddyfeisio ei hun dro ar ôl tro!

  • Blagurodd y syniad o greu Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn 1970au rhwng Emyr Edwards a phrif swyddog yr Urdd ar y pryd, R. E. Griffith. Meddai Emyr; “O’r cychwyn, y peth pwysicaf oedd rhoi cyfle i bwy bynnag a ddeuai i ffurfio’r cwmni’n flynyddol weithio trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.”
  • Ar y dechrau, roedd Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd yn gynllun blynyddol; Hydref i drefnu’r cynhyrchiad, gaeaf i gasglu actorion a phythefnos Pasg i ‘marfer a pherfformio.
  • Y cynhyrchiad cyntaf oedd ‘Cwymp ac Adferiad Dyn’ gan John Bowen (cyf. J.M. Edwards). Roedd 40 o actorion a thechnegwyr yn ffurfio’r cwmni cyntaf, a thua 90 o gymeriadu i’w portreadu! Perfformiwyd yn Theatr Halliwell, Neuadd Gyhoeddus Pontyberem a Theatr y Sherman.
  • “Credaf y gall sefydlu’r cwmni hwn o dan nawdd yr Urdd fod yn ddigwyddiad o bwys yn hanes y ddrama yng Nghymru ac fe all ddatblygu’n ffactor allweddol yn hanes y ddrama Gymraeg yn y dyfodol.” – Bob Roberts, Y Faner, Awst 1974.